Ibn Saud, brenin Saudi Arabia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ibn Saud

Brenin cyntaf Saudi Arabia oedd Abdul-Aziz ibn Abdul-Rahman al Faisal al Saud (Arabeg: عبد العزيز آل سعود , ‘Abd al-‘Azīz Āl Su‘ūd; 1876 (ond dywed 1880 mewn ffynonellau traddodiadol) – 9 Tachwedd 1953) a elwir yn aml yn Ibn Saud.

Fe'i ganwyd yn Riyadh i'r frenhinllin Saud, a chafodd ei deulu ei alltudio i Kuwait pan oedd Arabia yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid. Ym 1902 dychwelodd Ibn Saud i adennill Riyadh a rheoli Nejd a Hasa, ac ym 1921 datganodd ei hunan yn Swltan Nejd. Ym 1926 concrodd Teyrnas Hejaz a ffurfiodd Teyrnas Nejd a Hejaz, a ailenwodd yn Saudi Arabia ym 1932.

Darganfuwyd petroliwm yn Saudi Arabia yn y 1930au a daeth â chyfoeth anhygoel i Ibn Saud a'i wlad; erbyn ei farwolaeth roedd yn un o ddynion cyfoethocaf y byd. Bedowin ac imam etifeddol yr Wahabïaid oedd Ibn Saud, a gosododd sharia yn sail gyfreithiol ei deyrnas. Roedd yn briod i dua 300 o wragedd, ac yn dad i nifer o blant.