Iarllaeth Penfro

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
 Rhybudd! Broom icon.png Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon.
Ewch ati i'w chywiro os y gallwch, neu mi geith ei dileu. Mae'r nodyn hwn yn rhoi'r erthygl yn y categori Tudalennau â phroblemau ieithyddol.


Gweler hefyd Penfro (gwahaniaethu).

Cysylltir Iarllaeth Penfro, â Chastell Penfro yn ne-orllewin Cymru; fe'i chrewyd gan Steffan, brenin Lloegr. Sawl gwaith mae'r llinach etifeddu wedi diflannu, ac mae'r iarllaeth wedi ei hail-greu, gan ddechrau'r cyfrif unwaith eto gyda'r Iarll cyntaf. Ar 1 Medi 1533 trodd Harri VIII, brenin Lloegr ei frenhines, Anne Boleyn, yn Ardalyddes Penfro, braint nodedig, oherwydd fod ei hen-ewythr Siasbar Tudur yn gyn-Iarll Penfro, a chan mai yno y ganed ei dad, Harri Tudur.

Deilir yr Iarllaeth presennol Iarll Trefaldwyn (1605), a grëwyd ar gyfer mab ieuengaf yr ail Iarll cyn iddo ddilyn fel 4ydd Iarll Penfro, yn ogystal â theitlau atododedig Barwn Herbert o Gaerdydd, a oedd yn sir Morgannwg (1551), Barwn Herbert o Shurland, ar Ynys Sheppey yn sir Caint (1605), a Barwn Herbert o Lea, yn Swydd Wilton (1861). Mae pob un yn Bendefigaeth Lloegr heblaw Barwniaeth Herbert o Lea, sydd yn rhan o Bendefigaeth y Deyrnas Unedig.

Mae sedd y teulu yn Nhŷ Wilton yn Swydd Wilton.

Hanes[golygu]

Delwyd y teitl Iarll Penfo gan sawl teulu Seisnig, a gysylltwyd yn wreiddiol at ynadon a pharch siroedd breiniol.[1] Crëwyd y cyntaf yn 1138, pan gyflwynwyd Iarllaeth Penfro gan Steffan, brenin Lloegr i Gilbert de Clare (bu farw 1148), mab Gilbert Fitz-Richard, a oedd yn berchen ar Arglwyddiaeth Strigul (Estrighoiel, yn y Domesday Book), Cas-gwent yw hi erbyn hyn. Ar ôl Brwydr Lincoln (1141), ble gymerodd rhan, ymunodd yr Iarll â pharti'r Empress Matilda, a phriododd mistress Harri I, brenin Lloegr, Isabel, merch Robert de Beaumont, Iarll Caerlŷr.

De Clare[golygu]

Roedd Richard de Clare, 2il Iarll Penfro (bu farw 1176), a adnabyddwyd yn aml fel Strongbow, yn fad i'r Iarll cyntaf, ac etifeddodd ystadau ei dad yn 1148, ond collodd hwy erbyn 1168. Er, yn y flwyddyn honno, dewiswyd ef i arwain yr ymgyrch Normanaidd i'r Iwerddon i genfnogi Diarmuid, brenin Leinster, a oedd wedi cael ei yrru allan o'i dir breiniol. Croesodd y môr i'r Iwerddon yn 1170, a chymerodd Waterford a Dulyn, a phriododd merch Diarmuid, Aoife, gan hawlio Brenhiniaeth Leinster wedi marwolaeth Diarmuid yn 1171. Roedd Harri II, brenin Lloegr, yn amheus iawn o'r bŵer, a chymerodd ei eiddo oddiarno yn yr un flwyddyn, gan oresgyn Iwerddon ei hun yn 1172, a rhoi ei ddynion ef mewn pŵer. Dychwelodd Strongbow i'w ffafriaeth ac i bŵer yn Iwerddon yn 1173 pan helpodd y Brenin mawn ymgyrch yn erbyn gwrthryfela ei feibion. Bu farw yn 1176 ar ôl blynyddoedd o gwffio yn erbyn gwrthryfelwyr Gwyddeleg.

Bu farw Strongbow heb dadu mab, felly daeth ei ferch, Isabel yn Iarlles Penfro, a roddwyd y teitl Iarll Penfro i'w gŵr, yr enwog Syr William Marshal, mab John y Marshal, a Sibylle, chwaer Patrick, Iarll Salisbury.

Marshal[golygu]

Credai nifer mai William Marshal oedd y Marchog gorau erioed yng ngwledydd cred, pan, yn Awst 1189, yn 43 oed, rhoddwyd llaw Isabel de Clare iddo mewm priodas, a chrëwyd ef yn Iarll 1af Penfro gan Risiart I, brenin Lloegr. Er ei fod eisoes wedi ochri gyda'i dad Harri yn erbyn ei wrthryfela, cadarhaodd Richard drwydded y Brenin ar gyfer ei briodas i etifeddes Iarllaeth Strigul a Pembroke. Gwasanaethodd Richard a John, brenin Lloegr yn ffyddlon, gan amddiffyn yr ail rhag barwniau gwrthryfelgar Ffrainc a Lloegr yn Rhyfel 1af y Barwniaid. Roedd hefyd yn bresennol pan arwyddwyd y Magna Carta ym 1215. Ar farwolaeth John yn 1216, enwebwyd Marshal, a oedd yn 70 oed erbyn hyn, yn Ddirprwy Frenin y frenhiniaeth ac amddiffynwr y brenin ifanc, Harri III. Gorchfygodd y gwrthryfelwyr a'u cefnogwyr Ffrengig, ac ail-gyhoeddodd y Magna Carta er mwyn cadarnhau'r heddwch. Aeth ei iechyd yn wael ym 1219, ac ar 14 Mai bu farw yn ei faenor yn Caversham, ger Reading. Ei olynydd fel Dirprwy Frenin oedd Hubert de Burgh, Iarll 1af Caint, ac olynwyd ef yn ei iarllaeth gan ei bum mab.

Gwariodd ei fab hynaf, William Marshal (bu farw 1231), 2il Iarll Penfro yn y linell hon, rai blynyddoedd yng nghanol y rhyfela yng Nghymru ac yn Iwerddon, ble roedd o'n ynad rhwng 1224 a 1226; gwasanaethodd Harri III yn Ffrainc hefyd. Roedd ei ail wraig yn chwaer i'r brenin, Eleanor, ac yna'n wraig Simon de Montfort, ond ni adawodd unrhyw blant.

Daeth ei frawd Richard Marshal (bu farw 1234), y 3ydd Iarll, i'r amlwg fel arweinydd y parti barwnol, a phrif wrthwynebydd ffrindiau estron Harri III. Gan ofni bradwriaeth, gwrthododd ymweld â'r brenin yng Nghaerloyw yn Awst 1233, a datganodd Harri ef yn bradwr. Croesodd i'r Iwerddon lle roedd Peter des Roches wedi annog ei elynion i ymosod arno, ac yn Ebrill 1234 gorchfygwyd ac anafwyd ef; bu farw yn garcharwr.

Daeth ei frawd Gilbert (bu farw 1241), yn 4ydd Iarll Penfro, ac roedd yn gefnogwr i Richard, Iarll Cernyw. Pan bu farw brawd arall, Anselm, y 6ed Iarll, yn Rhagfyr 1245, diflanwyd llinell disgynyddion Iarll Marshal y Mwyaf. Rhannwyd eiddo estynedig y teulu rhwng pum chwaer Anselm a'u disgynyddion, a dychwelodd Iarllaeth Penfro i berchnogaeth y Goron.

de Valence[golygu]

Pais Arfau de Valence, Ieirll Penfro

Deilydd nesaf Iarllaeth Penfro oedd William de Valence, mab ieuengaf Hugh de Lusignan, Iarll La Marche, trwy ei briodas ag Isabella o Angoulême, gweddw brenin John o Loegr. Ym 1247, symudodd William, ynghyd â dau o'i frodyr, o Ffrainc i Loegr, lle roedd eu hanner brawd, Harri III yn frenin. Priododd brenin Ffrainc William â Joan de Munchensi (bu farw 1307), wyres ac etifeddes William Marshal, Iarll 1af Penfro. Rhoddwyd cadwraeth teitl a thiroedd Penfro i Valence, gan roi cyfoeth a phŵer cryf iddo yn ei diroedd newydd. Fel canlyniad, roedd yn amhoblogaidd ac ymwnaeth yn drwm ag Ail Ryfel y Barwniaid, gan gefnogi'r brenin a'r Tywysog Edward yn erbyn y gwrthryfelwyr o oedd dan arweiniad Simon de Montfort. Ar ôl gorchfygaeth olaf y gwrthryfelwyr ym Mrwydr Evesham yn 1265, daliodd William ymlaen i wasanaethu Harri III, ac yna Edward I, hyd ei farwolaeth yn 1296.

Etifeddodd mab hynaf goroesog William, Aymer (tua 1265-1324), ystadau ei dad, ond nid adnabyddwyd ef yn swyddogol fel Iarll Penfro tan marwolaeth ei fam, Joan yn 1307. Apwyntwyd ef yn warchodwr Yr Alban yn 1306, ond ar esgyniad Edward II, brenin Lloegr i'r orsedd a chodiad canlynol Piers Gaveston i bŵer, lleihaodd ei ddylanwad. Daeth yn flaenllaw ymysg yr uchelwyr anfodlon, ond yn 1312, ar ôl i Iarll Warwick ei fradychu wrth ladd Gaveston ar ôl ei ddal, gadawodd Aymer yr arglwyddi unedig ac ymunodd i gefnogi'r brenin. Roedd yn bresennol yn Bannockburn ym 1314, ac yn ddiweddarach, helpodd y brenin Edward i orchygu Thomas Plantagenet, 2il Iarll Caerhirfryn. Ond erbyn ei farwolaeth ym 1324, roedd unwaith eto wedi colli ei ddylanwad yn y llys, ac roedd mewn trafferthion ariannol. Ei wraig ef, Mary de Châtillon, un o ddisgynyddion Harri III, oedd sefydlwr Coleg Penfro, Caergrawnt.

Hastings[golygu]

Ym 1339, crëwyd, neu adnabyddwyd Laurence, Arglwydd Hastings (bu farw 1348), gorwyr William de Valence, yn Iarll Penfro, wedi iddo etifeddu (drwy'r llinell fenywaidd) rhan o ystadau Valence, Ieirll Penfro. Priododd ei fab John (bu farw 1376) Margaret Plantagenet, merch y brenin Edward III, ac ar farwolaeth ei wyr yn ddi-blant ym 1389 dychwelodd Iarllaeth Penfro i'r Goron unwaith eto.

Plantagenet, Pole a Thudur[golygu]

Ym 1414, crewyd Humphrey Plantagenet, pedwerydd mab Henry IV, brenin Lloegr, yn Ddug Caerloyw a Iarll Penfro am gydol ei oes, trodd y cyntaf yn deitl etifeddol a dychwelodd yr ail i fod yn deitl etifeddol, wedi y rhoddwyd i'r etifeddwr, Humphrey, William de la Pole, Dug 1af Suffolk. Wedi marwolaeth Humphrey yn ddi-blant, yn 1447 daeth y bonheddigwr yma yn Iarll Penfro. Torrwyd ei ben i ffwrdd yn 1450 a chollwyd y teitlau. Ym 1453 rhoddwyd y teitlau i Syr Siasbar Tudur, hanner brawd Henry VI, brenin Lloegr. Gan yr oedd Syr Siasbar yn Gaerhirfrynwr, collodd ei deitl tra roedd Tŷ'r Efrog yn flaenllaw, ond adferwyd y teitl ar esgyniad Harri VII, brenin Lloegr. Ar ei farwolaeth yn ddi-olynyddol yn 1495, diflanwyd y teitl unwaith eto.

Herbert a Plantagenet[golygu]

Yn ystod ei warth, cymerwyd Syr Siasbar yn garcharwr gan Syr William Herbert (bu farw 1469), pleidiwr Iorc, oedd wedi ei wneud yn Farwn Herbert gan Edward IV. Gwobrwywyd ef am hyn trwy ei wneud yn Iarll Penfro yn lle Siasbar yn 1468. Daeth ei fab William (bu farw 1491) yn Iarll Huntingdon yn lle Iarllaeth Penfro, a ildiodd i Edward IV, a'i rhoddodd i'w fab, Edward, tywysog Cymru. Pan ddaeth yr Edward hwn yn frenin fel Edward V, parhaodd y teitl yn eiddo'r goron.

Herbert[golygu]

Ail-grëwyd y teitl Iarll Penfro nesaf o ffarf Syr William Herbert (tua 1501–1570), roedd ei dad, Richard, yn fab anghyfreithlon Iarll 1af Penfro o dŷ Herbert. Priododd Anne Parr, chwaer chweched gwraig Harri VIII, a chrëwyd ef yn Iarll yn 1551. Ers hyn, delwyd y teitl gan ei ddisgynyddion.

Fel ysgutor ewyllys Harri VIII, a derbynydd grantiau tir gwerthfawr, roedd Herbert yn berson blaengar a phwerus yn ystod brenhiniaeth Edward VI, yn amddifynwr o Edward Seymour, Dug 1af Gwlad yr Hâf a'i wrthwynebydd, John Dudley, Dug 1af Northumberland, yn ddiweddarach ceisiodd Dug Northumberland ennill cefnogaeth Herbert, taflodd Herbert ei nerth tu ôl i Dudley, ac wedi goresgyn Seymour, enillodd rhai o'i diroedd yn Swydd Wilton a phendefigaeth. Honnai sawl ei fod wedi cynllwynio i gael Coron Lloegr ar Arglwyddes Jane Grey; a tybwyd ei fod yn un o'i chynghorwyr yn ystod ei theyrnasiad byr, ond datganoedd ei gefnogaeth o Mary I, brenhines Lloegr pa welodd fod yr Arglwyddes Jane wedi colli ei gafael ar y goron. Roedd Mary a'r ffrinidau yn aml yn amheus o ffyddlondeb yr Iarll Penfro, ond cyflogwyd ef fel llywodraethwr Calais, ac Arlywydd Cymru ymysg swyddi eraill. Roedd hefyd i ryw raddau odan hyder Philip II, brenin Sbaen. Deliodd yr Iarill ei safle yn y llys odan deyrnasaeth Elizabeth I, brenhines Lloegr tan 1569, pan amheuwyd ef o gefnogi priodas tybiedig rhwng Mary I, brenhines yr Alban, a Dug Norfolk. Ymysg y tiroedd mynachlog a roddwyd i Herbert oedd ystad Wilton, ger Salisbury, sydd hyd heddiw yn gartref i Ieirll Penfro.

Golynwyd ef gan ei fab hynaf, Henry (tua 1534–1601), fel 2il Iarll, ef oedd Arlywydd Cymru o 1586 hyd ei farwolaeth. Priododd Mary Sidney, yr Iarlles enwog o Benfro (tua 1561–1621), a trydedd merch Syr Henry Sidney a'i wraig Mary Dudley, ym 1577. Ei brawf hynaf oedd Syr Philip Sidney, roedd hi'n hoff iawn ohono trwy ei bywyd. Gwariodd Syr Philip Sidney haf 1580 gyda hi yn Nhŷ Wilton, neu Ivychurch, hoff lloches iddi yn yr ardal. Yma ar ei gofyn, dechreuodd Arcadia Iarlles Penfro, a oedd wedi ei fwriadu er mwyn ei phleser hi yn unig ac nid er mwyn cyhoeddi. Gweithiodd y ddau ar argraffiad mydryddol o'r Psalmau. Pan daeth trister gwal marwolaeth ei brawd, trodd ei hun yn ysguor llenyddol, gan gywiro argraffiadau anawdurdodedig o'r Arcadia ac o'i farddoniaeth, a ymddangosodd ym 1590 a 1591. Cymerodd odan ei cheail hefyd, feirdd a oedd wedi edrych tuad at ei brawd cynt am amddiffyniaeth. Cyflwynodd Spenser Ruines of Time iddi, a chyfeirir ati fel "Urania" yn Colin Clout's come home againe; yn Astrophel Spenser, hi ydy "Clorinda". Ym 1599 y Frenhines Elizabeth oedd ei gwestai yn Wilton, a chyfansoddodd yr Iarlles bugeilgerdd ymddigan yn canmol Astraea. Wedi marwolaeth ei gŵr, bu'n byw yn Llundain yn bennaf, yn Neuadd Crosby, a dyna lle bu farw.

Mae gweithiau eraill yr Iarlles yn cynnwys: A Discourse of Life and Death, cyfieithiad o'r Ffrangeg o waith Plessis du Mornay (1593), a Antoine (1592), fersiwn o drychineb Robert Garnier.

Roedd William Herbert, 3ydd Iarll Penfro (1580–1630), mab yr 2il Iarll a'i Iarlles enwog, yn ffigwr bannog yng nghymdeithas ei oes ac yn llys James I. Sawl gwaith, darganfyddodd ei hyn yn erbyn cynlluniau Duke of Buckingham, ac roedd â diddordeb mawr yng ngwladychiad America. Ef oedd Arglwydd Chamberlain y tŷ brenhinol rhwng 1615 a 1625 ac Arglwydd Steward rhwng 1626 a 1630. Ef oedd Canghellor Prifysgol Rhydychen ym 1624 pan ail-sefydlodd Thomas Tesdale a Richard Wightwick Neuadd Broadgates a'i ail-enwi yng Ngholeg Penfro yn ei anrhydedd. Adnabyddwyd ef gan rhai sylwebwyr Shakespearaidd fel "Mr W. H." yr "the onlie begetter" sonedau Shakespeare yn y gysgeraeth gan Thomas Thorpe, perchennog y llawysgrif argraffiedig, tra'r adnabyddwyd ei fistress, Mary Fitton, fel y "ddynes dywyll" (Saesneg: Dark Lady) o'r sonedi. Mae'r adnabyddiaeth yn y ddau achos yn gorwedd ar dystiolaeth amheus. Ef a'i frawd Philip oedd yr "incomparable pair of brethren" i bwy a ysgrifennwyd Folio Cyntaf Shakespeare.

Ni adawodd yr Iarll unrhyw feibion pan fu farw yn Llundain ar 10 Ebrill 1630. Rhoddir Clarendon gyfrif canmolog o'r Iarll, a welir, beth bynnag, ei fod yn ddyn o bersonoliaeth gwan a bywyd diffaith. Disgrifiai Gardiner ef fel yr Hamlet o'r Llys Seisnig. Roedd ganddo flas am lenyddiaeth ac ysgrifenodd farddoniaeth; un o'i ffrindiau agosaf oedd y bardd Donne, ac roedd yn hael iawn â Ben Jonson, Massinger ac eraill.

Roedd ei frawd, Philip Herbert, 4ydd Iarll Penfro (1584–1650), am rai blynyddoedd yn ffefryn pennaf James I, oherwydd y safle yma a'i bersoloniaeth têg a'i hoffder o hwlcio a chwaraeon maes yn gyffredinol. Ym 1605 creodd James I, brenin Lloegr ef yn Iarll Trefaldwyn a Barwn Herbert o Shurland, ac ers 1630, pan ddilynodd ef i Iallaeth Penfro, mae pen y teulu Herbert wedi cario'r ddau deitl, Iarll Penfro a Trefaldwyn.

Er i gymeriad dadleuol Philip ei arwain i drafferthion yn aml, ni chollodd edmygaeth James I, a sypiodd tiroedd a swyddogaethau arno, rhoddwyd ffydd ynddo hefyd gan Charles I, a wnaeth ef yn Arglwydd Chamberlain yn 1626 ac ymwelodd ef yn aml â Philip yn Wilton. Gweithiodd i ddod a heddwch rhwng y Brenin a'r Alban ym 1639 a 1640, ond pan ym 1640 adnewyddwyd y ddadl rhwng Charles â'r Senedd Seisnig, ymadaelodd â'i gefnogaeth â'r brenin, ac yn fuan iawn cymerodd y Brenin ei swyddogaeth o Arglwydd Chamberlain oddiarno. Roedd gan y blaid boblogaidd ffydd ynddo, a gwnaethpwyd Iarll Penfro yn llywodraethwr Ynys Wyth, bu'n un o'r cynyrchiolwyr yn y senedd ar sawl gwaith, yn nodweddiadol yn ystod trafodaethau yn Uxbridge ym 1645 ac yng Nghasnewydd ym 1648, a phan ildiodd yr Alban i Charles yn 1647. Rhwng 1641 a 1643, ac eto rhwng 1647 a 1650, ef oedd Canghellor Prifysgol Rhydychen; ym 1648 ymddiswyddodd rhai pennau tai gan y gwrthodont gymryd Solemn League and Covenant, arweiniodd ei iaith aflan at y sylwad "ei fod, drwy ei hudledd wrth regi, yn ei wneud fwy addas i lywyddu dros wallgofdy nac academi addysgiedig" (Saesneg: "by his eloquence in swearing to preside over Bedlam than a learned academy"). Ym 1649, er ei fod yn bendefig, etholwyd ef, a chymerodd sedd yn y Tŷ Cyffredin fel aelod ar ran Berkshire, ysgogodd y daith yma o'i ddisgyniaeth mewn pwysigrwydd, lenyddiaeth gwatwarus gan y synnwyr breiniol. Roedd yr iarll yn gasglwr o baentiadau ac roedd ganddo gryn flas am bensaerniaeth.

Golynwyd ef gan ei fab hynaf goroesog, Philip (1621-1669), a daeth yn 5ed Iarll Penfro, ac 2il Iarll Trefaldwyn; priododd ddwywaith, a dilynwyd yn ei dro gan dri o'i feibion, un ohonynt oedd Thomas, yr 8fed Iarll (tua 1656-1733), person nodweddiadol yn ystod teyrnasaeth William III ac Anne. Rhwng 1690 a 1692, ef oedd Arglwydd Cyntaf y Forlys; wedyn gweithiodd fel Arglwydd Privy Seal hyd 1699, ac ym 1697 daeth yn plenipotentiary cyntaf Prydain Fawr yn Treaty Ryswick. Ddwywaith, roedd yn Llyngesydd Arglwydd Uwch am gyfnod byr; ac hefyd yn Arglwydd Llywydd y Cyngor ac Arglwydd Raglaw yr Iwerddon, tra'r oedd yn actio fel Arglwydd yr Ynadon saith gwaith; a Llywydd y Gymdeithas Brenhinol ym 1689-1690.

Roedd ei fab, y 9fed Iarll (tua 1689-1750), yn filwr, ond adnabyddwyd orau fel y "Pensaer Iarll." Ef oedd yn bennaf gyfrifol am godi Pont Westminster. Disgynnodd y teitl yn syth i lawr i Henry, y 10fed Iarll (1734-1794), milwr, a ysgrifennodd "The Method of Breaking Horses" (1762); George Augustus oedd y 11eg Iarll (1759-1827), llysgennad anhygoel Vienna ym 1807; a Robert Henry, y 12fed Iarll (1791-1862), a fu farw yn ffrain yn ddi-blant, a gladdwyd ym Mynwent Père Lachaise ym Mharis. George Robert Charles, oedd y 13eg Iarll (1850-1895), wyr y 10fed Iarll a mab y Barwn Herbert o Lea (q.v.), etifeddodd Sidney (ganed 1853), ail fab y Barwn, holl deitlau'r teulu ar farwolaeth ei frawd.

Ieirll Penfro, y Creadigaeth gyntaf (tua 1138)[golygu]

Ieirll Penfro, yr ail Greadigaeth (1189)[golygu]

Ieirll Penfro, y drydedd Greadigaeth (1247)[golygu]

Ieirll Penfro, y bedwaredd Greadigaeth (1339)[golygu]

Ieirll Penfro, y bumed Greadigaeth (1414)[golygu]

Ieirll Penfro, y chweched Creadigaeth (1447)[golygu]

Ieirll Penfro, y seithfed Creadigaeth (1452)[golygu]

Ieirll Penfro, yr wythfed Creadigaeth (1468)[golygu]

Ieirll Penfro, y nawfed Creadigaeth (1479)[golygu]

Ardalyddes Penfro (1533)[golygu]

Iarll Penfro, y degfed Creadigaeth (1551)[golygu]

Delwedd:Iarll Penfro coa.png
Arms of the Ieirll Penfro (tenth Creadigaeth).

Etifedd Tebygol y ddau Iarllaeth (heblaw Barwniaeth Herbert o Lea): Iarll Caernarfon (ganed 1958)

Defnydd arall yr enw[golygu]

Mae hefyd llong dal o'r enw Iarll Penfro, sydd wedi cael ei defnyddio mewn sawl ffilm hanesyddol, gweler hefyd HM Bark Endeavour

Credai fod tref Pembroke Pines (Cymraeg: Pinwyddau Penfro), yn Florida wedi ei enwi ar ôl Iarll Penfro, perchennog tir cynnar yn Broward County.

Enwyd Pembroke, New Hampshire ar ôl Henry Herbert, 9fed Iarll Penfro gan y Llywodraethwr Benning Wentworth.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. [Allan o Encyclopaedia Britannica 1911]
  • G. T. Clark, The Earls, Earldom and Castle of Pembroke (Tenby 1880)
  • J. R. Planche, 'The Earls of Strigul', yn cyf. x. Proceedings of the British Archaeological Association (1855)
  • G. E. C(okayne), Complete Peerage, cyf. vi. (Llundain, 1895).
  • Giraldus Cambrensis, Expugnatio hibernica
  • The Song of Dermot, golygwyd gan G. H. Orpen (1892).
  • The metrical French life, Histoire de Guillaume le Marchal (Golygwyd gan P. Meyer, 3 cyf., Paris, 1891-1901)
  • The Minority of Henry III, gan G. J. Turner (Cyfieithiad Cymdeithas Brenhinol Hanes, cyfres newydd, cyf. xviii. pp. 245295)
  • W. Stubbs, Constitutional History, pen. xii. and xiv. (Oxford, 1896f 897)