Ian McKellen
| Ian McKellen | |
|---|---|
Syr Ian McKellen |
|
| Geni | 25 Mai, 1939 Burnley, Swydd Gaerhirfryn, |
| Enwog am | The Lord of the Rings: The Fellowship of the Ring, X-Men |
| Galwedigaeth | Actor |
Actor llwyfan a ffilm Seisnig yw Syr Ian Murray McKellen (ganwyd 25 Mai 1939). Yn ystod ei yrfa mae ef wedi derbyn Gwobr Tony a dau enwebiad am Wobrau'r Academi. Amrywia ei waith o ddramâu Shakesperaidd i theatr fodern a ffilmiau gwyddonias. Mae'n adnabyddus i nifer fel cymeriad Gandalf yn y dair ffilm Lord of the Rings ac fel Magneto yn y ffilmiau X-Men.
Ym 1988, daeth allan fel dyn hoyw a daeth yn un o'r bobl a sefydlodd "Stonewall", un o fudiadau hawliau LHDT mwyaf dylanwadol y Deyrnas Unedig. Mae'n parhau i fod yn lefarydd blaenllaw ar eu rhan.
Derbyniodd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) ym 1979 a chafodd ei urddo yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd ym 1991 am ei waith a chyfraniad eithriadol i'r theatr. Yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn 2008, derbyniodd "Companion of Honour" (CH) am ei wasanaethau i ddrama a chydraddoldeb. Fodd bynnag, pan gyflwynwyd y wobr CH iddo gan y Frenhines, cyfeiriodd y swyddog o Balas Buckingham at ei "wasanaeth i ddrama" yn unig, rhywbeth a ddigiodd McKellen.