Iago II & VII, brenin Lloegr a'r Alban
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Iago II/VII o Loegr a'r Alban)
Y brenin Iago, y VII ar yr Alban a'r II ar Loegr (14 Hydref, 1633 - 16 Medi, 1701), oedd brenin Catholig olaf Lloegr a'r Alban. Teyrnasodd rhwng 6 Chwefror 1685 a 11 Rhagfyr 1688. Roedd yn fab i Siarl I ac yn frawd i Siarl II.
Ei wraig gyntaf oedd Anne Hyde, ond bu hi farw ym 1671. Brenhines Iago oedd Mair o Modena.
Plant [golygu]
- Siarl Stuart (1660-1661)
- Mari II, Brenhines Lloegr a'r Alban (1662-1694)
- Iago Stuart (1663-1667)
- Anne, brenhines Prydain Fawr (1665-1714)
- Siarl Stuart (1666-1667)
- Edgar Stuart (1667-1669)
- Henrietta Stuart (1669)
- Catrin Stuart (1671)
- Catrin Laura Stuart (1675)
- Isabelle Stuart (1676-1681)
- Siarl Stuart (1677)
- Charlotte Maria Stuart (1682)
- Iago Ffransis Edward Stuart, Tywysog Cymru (1688-1766), Yr Hen Ymhonnwr.
- Louisa Stuart (1692-1712)
| Rhagflaenydd: Siarl II |
Brenin yr Alban 6 Chwefror 1685 – 11 Rhagfyr 1688 |
Olynydd: William II a Mari II |
| Rhagflaenydd: Siarl II |
Brenin Lloegr 6 Chwefror 1685 – 11 Rhagfyr 1688 |
Olynydd: William III a Mari II |