Hywel ab Ednyfed

Oddi ar Wicipedia
Hywel ab Ednyfed
Bu farw1247 Edit this on Wikidata
TadEdnyfed Fychan Edit this on Wikidata
MamTangwystl ferch Llywarch Edit this on Wikidata

Esgob Llanelwy o 1240 i 1247 oedd Hywel ab Ednyfed (bu farw 1247), y cyfeirir ato hefyd fel Hywel II.[1]

Cymharol ychydig a wyddom am Hywel. Mae'n bosibl ei fod yn un o feibion Ednyfed Fychan, er nad oes sicrwydd am hynny. Cyfeirir ato sawl gwaith yn nogfennau'r cyfnod yng nghwmni'r Tywysog Dafydd ap Llywelyn, mab Llywelyn Fawr.[2]

Cyfeirir at Hywel ym Mrut y Tywysogion fel yr esgob a gysegrodd Frodordy Llan-faes, Môn. Cododd y Tywysog Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) fynachlog yn Llan-faes i'r Brodyr Troednoeth er anrhydedd i'w wraig y Dywysoges Siwan, merch y brenin John o Loegr ar ôl iddi farw yn 1237. Dyma'r cofnod ym Mrut y Tywysogion:

Y flwyddyn ragwyneb y bu farw Dâm Siwan, ferch Ieuan frenin, gwraig Llywelyn ap Iorwerth, fis Chwefror yn llys Aber; ac y'i claddwyd mewn mynwent newydd ar lan y traeth a gysegrasai Hywel, esgob Llanelwy. Ac o'i hanrhydedd hi ydd adeiladawdd Llywelyn ap Iorwerth yno fynachlog (i'r Brodyr) Troednoeth a elwir Llan-faes ym Môn.[3]

Bu farw Hywel ger Rhydychen yn 1247, efallai tra yno fel rhan o lysgenhadaeth Gwynedd yn y trafodaethau a arweiniodd at Gytundeb Woodstock yn y flwyddyn honno, ar ran y Llywelyn ap Gruffudd ifanc a'i frawd Owain.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. David Stephenson, The Governance of Gwynedd (Caerdydd, 1984), tud. 169.
  2. The Governance of Gwynedd, tud. 35.
  3. Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogyon. Peniarth MS. 20 (Caerdydd, 1941). Orgraff ddiweddar.
  4. The Governance of Gwynedd, tud. 170.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.