Hyder Consulting

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hyder Consulting plc
Hyderconsulting.jpg
Math Cwmni cyfyngedig cyhoeddus
Sefydlwyd 1857 odan yr enw "Freeman Fox"
Sylfaenydd Syr Ralph Freeman
Pencadlys Baner Lloegr Lloegr, Llundain
50 swyddfa yn fyd eang
Pobl blaenllaw Ivor Catto, Prif Weithredwr
Russell Down, Cyfarwyddwr Ariannol
Diwydiant Peirianneg, yr amgylchedd, cynllunio a rheoli
Gwasanaethau Ymgynghori a dylunio
Refeniw £233.7m (2007)
Gweithwyr 5,000
Gwefan Hyder Consulting

Cwmni ymgynghori a dylunio rhyngwladol yw Hyder Consulting, sy'n arbenigo mewn materion isadeiledd, eiddo ac amgylcheddol. Mae'n cyflogi 5,000 o bobl yn fyd eang ac mae wedi ei restru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain ers mis Hydref 2002.

Hanes[golygu]

Sefydlwyd Freeman Fox & Partners ym 1857, ac aethont ymlaen i adeiladu enw da ym maes pontydd a ffyrdd yn yr 20fed ganrif. Syr Ralph Freeman oedd y sefydlydd, ac ymunodd Syr Gilbert Roberts gydag ef yn y cwmni yn fuan wedyn, roedd y cwmni yn gyfrifol am gynlluniau dylunio megis Pont Victoria Falls (1905), Pont Porthladd Sydney (1932), Pont Ffordd Forth (1964), Pont Hafren (1966), Pont Bosporus (1974), Pont Humber (1981) a Phont Fatih Sultan Mehmet (1988). Mae cynlluniau eraill o nod yn cynnwys telesgop radio Parkes (1961) a Phont Porth Gorllewin Melbourne (1978) a ddisgynodd ym 1970 gan ladd 35 o weithwyr, cafodd y cwmni ei ganfod yn rhannol gyfrifol am hyn.

Yn ystod yr un cyfnod, adeiladodd cwmni John Taylor & Sons enw da ym maes perianneg dŵr a gwastraff dŵr gan weithio ar gynlluniau megis prosiect cyflenwad dŵr Shanghai a phrosiectau dŵr a charffosiaeth o bwys yn Leningrad (a elwir yn St Petersburg erbyn hyn) a Tehran.

Unodd y ddau gwmni ym 1987 gan ffurfio Acer Consultants. Cyfunwyd nifer o gwmnïau llai dros y blynyddoedd, gan adeiladu strwythr rhyngwladol o ymgynghorwyr peirianneg sifil.

Ym 1993, daeth y cwmni hwn, ynghyd â chwmni ymgynghori Wallace Evans Ltd, yn eiddo i Ddŵr Cymru a newidwyd yr enw i Hyder Consulting ym 1996. Pan brynwyd Hyder Consulting gan Western Power Distribution, fe ddechreuodd uwch reolwyr Hyder Consulting brynu allan y cwmni eu hunain, a chwblhawyd hyn ym mis Ionawr 2001. Cafodd y cwmni ei restru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain ym mis Hydref 2002. Erbyn hyn maent yn cyflogi hyd at 5,000 o staff yn fyd eang, ac mae'n datblygu isadeiledd yn gweithredu ym meysydd peirianneg sifil, gwasanaethau, yr amgylchedd, adeiladau, geo-dechnoleg a thrafnidiaeth.

Dolenni allanol[golygu]