Hwyaden yr Eithin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hwyaden yr Eithin
Ceiliog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Tadorna
Rhywogaeth: T. tadorna
Enw deuenwol
Tadorna tadorna
(Linnaeus, 1758)

Mae Hwyaden yr Eithin (Tadorna tadorna) yn aelod o deulu'r Anatidae, yr hwyaid, gwyddau ac elyrch. Mae'n nythu yn rhannau gogleddol Ewrop ac Asia.

Nid yw Hwyaden yr Eithin yn aderyn mudol yng ngorllewin Ewrop, er bod adar o'r rhannau lle mae'r gaeafau'n oerach yn symud tua'r de i aeafu. Mae'n aros o gwmpas yr ardal lle mae'n nythu heblaw ddiwedd yr haf ar ôl gorffen nythu. Yr adeg honno maent yn casglu at ei gilydd i fwrw eu plu, ac mae nifer fawr, 100,000 neu fwy yn casglu ar Fôr Wadden ger arfordir gogleddol Yr Almaen. Dim ond ychydig o'r oedolion sy'n aros ar ôl i edrych ar ôl y cywion, ac weithiau gellir gweld casgliad o tua 40 - 60 o gywion yng ngofal dau neu dri o oedolion.

Mae'n nythu mewn tyllau - un ai hen dyllau cwningod neu dwll mewn coeden neu unrhyw le arall addas. Yn y gaeaf gellir eu gweld gweld ar lan y môr ac aberoedd lle bynnag mae digon o fwd lle gallant fwydo.

Gellir adnabod yr aderyn yma'n hawdd, gyda'i gorff gwyn a browngoch, pen gwyrdd (fel rheol yn edrych yn ddu) a phig coch. Mae'r rhan agosaf i'r pen o big y ceiliog yn chwyddo yn y tymor nythu.

Mae Hwyaden yr Eithin yn aderyn cyffredin o gwmpas glannau môr Cymru ac mae nifer sylweddol ohonynt yn nythu.

Mae Hwyaden cytras yn Seland Newydd o'r enw Putangitangi (Tadorna variegata) yn yr iaith Maori.

Iâr