Hwyaden Lostfain

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hwyaden Lostfain
Ceiliog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Anas
Rhywogaeth: A. acuta
Enw deuenwol
Anas acuta
Linnaeus, 1758
Cyfystyron

Dafila acuta

Mae'r Hwyaden Lostfain (Anas acuta) yn hwyaden sy'n nythu ar draws rhannau helaeth o ogledd Ewrop ac Asia, yn y rhan fwyaf o Alaska a Chanada a rhannau gogleddol o'r Unol Daleithiau.

Mae'r hwyaden yma yn aderyn mudol ac yn symud tua'r de neu tua'r gorllewin yn y gaeaf, pan mae i'w weld yn India ac Affrica. Yn y gaeaf mae heidiau mawr yn ymgasglu ar rai llynnoedd.

Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd. Mae ganddo gorff llwyd, bron wen, pen brown a gwddf brown gyda llunell wen arno. Y gynnffon hir ar y ceiliog sy'n rhoi'r enw Hwyaden Lostfain i'r rhywogaeth yma. Mae'r iar yn liw brownllwyd gyda cynffonau byrrach. Gellir adnabod yr iâr ymysg hwyaid eraill trwy ei siâp, yn enwedig y gwddf hir, tenau. Mae'n hwyaden weddol fawr, y ceiliog yn 65 i 75 cm o hyd a'r iâr yn 50 i 55 cm.

Planhigion yn tyfu mewn llynnoedd a gwlypdiroedd yw'r prif fwyd, ac yn y tymor nythu bryfed ac ymlusgiaid. Mae'n nythu mewn lle cymharol sych ar y lan, weithiau yn weddol bell o'r dŵr.

Anaml y mae'r Hwyaden Lostfain yn nythu yng Nghymru, ond gall fod yn eithaf cyffredin yn y gaeaf.

Iâr