Hwyaden Frongoch
| Hwyaden Frongoch | |
|---|---|
| Ceiliog | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Anseriformes |
| Teulu: | Anatidae |
| Genws: | Mergus |
| Rhywogaeth: | M. serrator |
| Enw deuenwol | |
| Mergus serrator Linnaeus, 1758 |
|
Mae'r Hwyaden Frongoch (Mergus serrator) yn hwyaden ganolig o ran maint sy'n eithaf cyffredin ar afonydd a llynnoedd ar draws Ewrop, gogledd Asia a Gogledd America.
Mae'r Hwyaden Frongoch yn aderyn mudol yn y rhannau lle ceir gaeafau oer ond yn aros trwy'r flwyddyn yng ngorllewin Ewrop. Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd; mae ganddo ben du gyda gwawr werdd, gwddf gwyn a bron gochaidd, cefn du a gwyn ar y bol. Mae gan yr iâr ben browngoch a'r gweddill o'r plu yn llwyd.
Eu prif fwyd yw pysgod bychain, sy'n cael eu dal trwy nofio o dan y dŵr, er eu bod hefyd yn bwyta llyffantod, pryfed neu unrhyw anifeiliaid bychain eraill sydd i'w cael yn y dŵr.
Mae'r Hwyden Frongoch yn nythu ar lawr ar lan afonydd neu ar ynysoedd bychain mewn afonydd. Tu allan i'r tymor nythu maent yn casglu'n heidiau, yn aml mewn bae cysgodol ar y môr. Mae'n aderyn gweddol gyffredin ar afonydd Cymru yn yr haf.