Hwdi

Oddi ar Wicipedia
Hwdi
Hwdi
Mathsweat shirt, protective clothing, winter clothing Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hwdi yw'r gair am ddilledyn gyda chwfl a wisgir ar ran ucha'r corff, daw'r gair o'r talfyriad Saesneg am grys chwys gyda chwfl, sef "hooded sweatshirt". Mae'r cynllun arferol yn cynnwys poced mawr ar y blaen, cwfl, ac (fel arfer) cortyn cau. Mae gan rai sip llawn lawr y blaen yn ogystal.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'r hwdi yn dyddio'n ôl i'r 1930au, ond yn hanesyddol mae'r steil yn tarddu o fath o ddilledyn o'r Oesoedd Canol. Roedd dillad ffurfiol ar gyfer mynachod Catholig yn cynnwys cwcwll, sef cwfl hir addurniadol a gafodd ei wisgo gyda'r tiwnig neu'r fantell arferol.[1] Cynhyrchwyd y ddilledyn yn yr arddull gyfoes gyntaf gan Champion yn y 1930au ar gyfer gweithwyr a oedd yn llafurio yn warysau rhew Efrog Newydd.[2] Lledaenodd poblogrwydd y dilledyn pan ddatblygodd dylunwyr dillad chwaraeon, megis Claire McCardell, gasgliadau cyfan ar sail y dilledyn.

Daeth yr hwdi'n fwy poblogaidd byth yn ystod yr 1970au, gyda sawl ffactor yn cyfrannu at ei lwyddiant. Datblygodd diwylliant hip hop yn Ninas Efrog Newydd tua'r adeg hon, ac roedd y gallu i fod yn anhysbys, oherwydd y cwfl, yn apelio at y rhai hynny oedd yn bwriadu troseddu.[2]

Canfyddiadau ac ystrydebau[golygu | golygu cod]

Mae'r gair hoodie wedi dod yn drawsenwad, sy'n cyfeirio at ran o ddiwylliant ieuenctid gwledydd Prydain.[3]

Mae hwdis wedi bod yn destun beirniadaeth chwerw yng ngwledydd Prydain; mae rhai sy'n dwyn o siopau wedi defnyddio'r dilledyn i guddio'u hwynebau fel na allent gael eu dal ar gamerâu teledu cylch cyfyng.[4] Mae hefyd wedi dod yn gysylltiedig â "chavs", yn arbennig pan wisgir ef gyda cap pêl fas: disgrifiwyd ef mewn adroddiad gan Oxfam fel "chav-style".[5]

Arwydd "Dim Hwdis" tu allan i dafarn yn Ne Llundain

Dywedodd Angela McRobbie, athro cyfathrebu yng Ngholeg Goldsmiths fod hwdi yn apelio i bobl oherwydd ei fod yn darparu anhysbysedd, dirgelwch a phryder i'r sawl sy'n ei wisgo. "Mae'r tarddiad yn amlwg o ddiwylliant hip-hop du Americanaidd, sy'n llwyr o fewn y prif lif erbyn hyn ac yn rhan allweddol o'r economi fyd-eang. Mae dillad hamdden a chwaraeon sydd wedi cael ei fabwysiadu ar gyfer eu gwisgo pob dydd yn cynnig y syniad o fod ar wahân i fyd siwt y swyddfa neu wisg ysgol." Mae diwylliant rap yn dathlu herfeiddiad, mae'n adrodd hanes y profiad o waharddiad cymdeithasol. Yn gerddorol ac yn steilyddol, mae'n adlewyrchu'r teimlad o fygythiad a pherygl, yn ogystal â dicter a llid. Mae'r hwdi yn ddilledyn ymysg nifer sydd wedi cael eu dewis gan bobl ifanc (bechgyn fel rheol) sydd wedi cael ystyr wedi ei briodoli iddynt gan gynnig fod y rhai sy'n gwisgo'r dilledyn hwnnw am wneud drwg. Yn y gorffennol, bu'n gyffredin i gysylltu gwisgwyr dillad megis y siaced ledr fel aelod o ddiwylliant ieuenctid penodedig. Mae'n gyffredin i bobl ifanc gydymffurfio gyda ffordd o wisgo sy'n dynodi eu dewis cerddorol a diwyllianol heddiw, ac mae hyn wedi hybu pobl, bechgyn yn arbennig, o phob hil ac oedran, i fabwysiadu'r hwdi."[6]

Ym mis Mai 2005, fe achosodd canolfan siopa Bluewater yng Nghaint ddicter pan lansiodd god ymddygiad a oedd yn gwahardd eu siopwyr rhag gwisgo hwdi neu gap pêl fas, er y buent yn parhau i werthu'r eitemau o fewn y ganolfan. Croesawodd John Prescott hyn, gan ddatgan ei fod yn teimlo o dan fygythiad gan bresenoldeb pobl yn eu harddegau yn gwisgo hwdis mewn gorsafoedd gwasanaeth ar y draffordd.[6] Fe gefnogodd y Prif Weinidog ar y pryd, sef Tony Blair, y safbwynt yma gan addo i glampio lawr ar yr ymddygiad gwrthgymdeithasol y mae gwisgwyr hwdis weithiau yn cael eu cysylltu gyda. Fe ryddhaodd Lady Sovereign, cerddor rap o Lundain, sengl mewn protest, dan y teitl "Hoodie" mewn protest fel rhan o ymgyrch "Achub y Hwdi".[7]

Yn Gymraeg, roedd y llyfr dadleuol "Sali Mali a'r Hwdi Chwim" yn cynnwys lleidr sy'n gwisgo hwdi, ac mae'r nofel arswyd Hwdi gan Gareth F. Williams yn cynnwys cymeriad drwgdybus sy'n gwisgo hwdi[8].

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  1.  Nilgin Yusuf (2006-08-12). The hoody grows up. Times Online.
  2. 2.0 2.1  Denis Wilson (2006-12-23). A Look Under the Hoodie. The New York Times.
  3. Alex Games (2007). Balderdash & piffle : one sandwich short of a dog's dinner. BBC. ISBN 9781846072352
  4.  In the hood. The Guardian.
  5.  Oxfam survey points to the end of the 'chav'. Oxfam (2005-05-31).
  6. 6.0 6.1  In the hood. The Guardian (2005-05-13).
  7.  Dan Hancox (31 Hydref 2005). Observations on style. New Statesman.
  8. sônamlyfra (2020-01-06). "Hwdi - Gareth F. Williams". Sonamlyfra. Cyrchwyd 2022-06-16.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]