Huw Evans

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
H. Hawkline
Gwybodaeth gefndirol
Enw genedigol Huw Evans
Ganwyd 1985
Man geni Baner Cymru Caernarfon
Blynyddoedd 2010–
Label(i) recordio Shape Records, Turnstile
Gwefan H Hawkline Music
Prif offeryn(au)
Gitar, llais

Cerddor a chyflwynydd teledu a radio Cymraeg ydy Huw Evans (ganwyd tua 1985).

Daeth i'r amlwg yn 2001 fel aelod o'r band Mwsog ai ffurfwyd tra oedd yn mynychu Ysgol Glan Clwyd. Mae'n cyflwyno rhaglenni gwestai C2 ar BBC Radio Cymru, i dot dot a Bandit ar S4C, mae hefyd yn actio rhan Skid ar raglen Xtra ar S4C.[1]

Cerddoriaeth[golygu]

Mae wedi chwarae gyda cerddorion megis Cate Le Bon a Sweet Baboo. Yn 2010, dechreuodd chwarae ei gerddoriaeth ei hun odan yr enw H. Hawkline, gan chwarae mewn nifel o ŵyliau gan gynnwys Green Man a Sŵn. Mae hefyd wedi dylunio gwaith celf ei record ei hun yn ogystal a Me Oh My ar gyfer Cate Le Bon. Cymerodd yr enw H. Hawkline o'i hoff lyfr, The Hawkline Monster gan yr awdur Americanaidd Richard Brautigan.[2]

Disgograffi[golygu]

  • A Cup of Salt, 6 Rhagfyr 2010 (Shape Records)
  • The Strange Uses Of Ox Gall, 5 Medi 2011 (Shape Records)
  • Black Domino Box EP, Awst 2012 (Shape Records)
  • Ghouls EP, 17 Mehefin 2013 (Turnstile)

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.