Huw Bennett

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Chwaraewr Rygbi'r Undeb dros dîm rhanbarthol y Gweilch a Chymru yw Huw Bennett (ganed 11 Mehefin 1983). Mae'n chwarae fel bachwr.

Ganed ef yng Nglynebwy. Chwaraeodd dros Gymru ar lefel dan 19 a dan 21, a chwaraeodd ei gêm gyntaf dros y tîm cenedlaethol yn 2003, yn erbyn Iwerddon.

Ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008, roedd cystadleuaeth rhyngddo ef a Matthew Rees am safle'r bachwr. Dechreuodd Bennett mewn pedair gêm pan enillwyd y Gamp Lawn.

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.