Hussein bin Ali, Sharif Mecca

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hussein bin Ali, Sharif Mecca

Sharif Mecca oedd Sayyid Hussein bin Ali, GCB (1854 – 4 Mehefin 1931) (Arabeg: حسین بن علی; Ḥusayn bin ‘Alī) ac hefyd Emir Mecca o 1908 hyd 1917, pan datganodd ei hunan yn Frenin Hejaz, gan dderbyn cydnabyddiaeth ryngwladol i'w deyrnas newydd. Dechreuodd y Gwrthryfel Arabaidd ym 1916 yn erbyn Ymerodraeth yr Otomaniaid yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1924, pan diddymwyd Califfiaeth yr Otomaniaid, datganodd ei hunan yn Galiff yr holl Fwslimiaid. Rheolodd Hejaz nes iddo ildio'i deyrnas a'i holl deitlau seciwlar i'w fab hynaf Ali ym 1924, yn dilyn ei drechiad gan y Brenin Ibn Saud.

Ei feibion oedd Ali, Faisal, Abdullah a Zeid.