Hunlun

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Merch yn tynnu hunlun o ongl uchel
Hunlun o macaque oedd wedi codi'r camera a wedi tynnu ffoto o'i hun.
Yr hunlun cyntaf, mae'n debyg; fe'i gymerwyd gan Robert Cornelius yn 1839.

Mae hunlun (hefyd hun-lun) neu selfie yn ffotograff hunanbortread, fel arfer yn cael ei dynnu ar gamera digidol neu ffôn symudol. Yn aml iawn mae hunluniau yn cael eu rhannu ar rwydweithiau cymdeithasol ar-lein fel Instagram, Facebook, a Tumblr. Maent yn anffurfiol ac yn aml yn cael eu tynnu gyda'r camera yn cael ei ddal hyd braich.

Hanes[golygu]

Cynhyrchodd yr arloeswr ffotograffig Americaniad Robert Cornelius llun daguerreotype o'i hun ym 1839 sef un o'r ffotograffau cyntaf o berson. Oherwydd roedd y broses mor araf, roedd yn gallu tynnu’r cap oddi ar y lens, rhedeg o flaen y camera am funud neu fwy, wedyn rhoi cap y lens yn ôl. Ysgrifennodd ar gefn y llun The first light picture ever taken. 1839.[1][2]

Ym 1900 dechreuodd gwmni Kodak gwerthu'r camera bocs ysgafn cyntaf y Kodak Brownie, ac fe ddaeth yr arferiad o dynnu hunain bortreadau'n boblogaidd. Fel arfer rhoddwyd y camera o flaen ddrych. [3]

Mae'r syniad o lwytho lluniau hunanbortread o grwpiau i'r we, gan ddefnyddio camera ffilm dafladwy yn hytrach na chamera digidol neu ffôn symudol, yn dyddio yn ôl i 2001 pan grëwyd gwefan gan grŵp o bobl yn Awstralia. [4][5][6]

Yr enw Selfie / Hunlun[golygu]

Mae'r defnydd cynharach o'r gair selfie yn cael ei olrhain yn ôl i 2002. Ymddangosodd yn gyntaf ar wefan Awstraliaid (ABC Online) ar 13 Medi 2002. [7]

Erbyn 2013, roedd y gair "selfie" wedi dod yn ddigon poblogiadd i'w gynnwys yn y fersiwn ddigidol o'r Oxford English Dictionary.[8]

Mae'r gair Cymraeg "hunlun" (neu "hun-lun") yn ymddangos tua 2013 ymlaen [angen ffynhonnell].[9]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Robert Cornelius' self-portrait: The First Ever "Selfie" (1839)". The Public Domain Review. Open Knowledge Foundation. http://publicdomainreview.org/2013/11/19/robert-cornelius-self-portrait-the-first-ever-selfie-1839/. Adalwyd 18 December 2013. 
  2. "Robert Cornelius, self-portrait; believed to be the earliest extant American portrait photo". Prints & Photographs Online Catalog. Library of Congress. http://www.loc.gov/pictures/item/2004664436/. Adalwyd 18 Rhagfyr 2013. 
  3. "Beginners Guide To Understanding And Using A Brownie Box Camera". http://www.brownie-camera.com/articles/petelutz/article.shtml. 
  4. "bogon.8m.com SelfPix". Archived from the original on 13 Ebrill 2004. http://web.archive.org/web/20040413003020/http://bogon.8m.com/outabout/selfpix1.htm. 
  5. "bogon.8m.com Out & About". Archived from the original on 11 Hydref 2001. http://web.archive.org/web/20011011110543/http://bogon.8m.com/outabout/pictures.htm. 
  6. "bogon.8m.com Bogons". Archived from the original on 28 Medi 2001. http://web.archive.org/web/20010928215649/http://bogon.8m.com/. 
  7. "Oxford Dictionaries Word of the Year 2013 is...". OxfordWords blog. Oxford Dictionaries. http://blog.oxforddictionaries.com/2013/11/word-of-the-year-2013-winner/. Adalwyd 30 Tachwedd 2013. 
  8. Coulthard, Charissa (7 June 2013). "Self-portraits and social media: The rise of the 'selfie'". BBC News online. http://www.bbc.co.uk/news/magazine-22511650. Adalwyd 6 April 2013. 
  9. "Etholiad Ewrop: ‘Na’ i dynnu hun-lun wrth bleidleisio". Cylchgrawn Golwg. 22 Mai 2014. http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/147942-etholiad-ewrop-na-i-dynnu-hun-lun-wrth-bleidleisio/. Adalwyd 27 Mehefin 2014.