Hunanladdiad yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia


Cofiwch!

Byw yng ngwledydd Prydain? Gallwch ffonio'r Samariaid am ddim ar: 116 123 unrhyw dro, os ydych yn teimlo'n isel.
Byw yn yr Ariannin? Ffoniwch 107 neu +5402234930430.
Mae rhannu eich pryder yn help ac yn beth da. Awduron lleyg sy'n cyfrannu at Wicipedia,
ond mae cysylltu gyda phobl broffesiynol, a all eich helpu, yn llawer gwell!

Mae rhwng 300 a 350 o bobl yn lladd eu hunain yng Nghymru bob blwyddyn.[1] Mae'r nifer hwn yn uwch na'r cyfradd mewn unrhyw ardal yn Lloegr. Rhwng 1981 a 1990, nid oedd gwahaniaeth arwyddocaol rhwng y niferoedd yng Nghymru a Lloegr ond mae'r cyfradd wedi bod yn uwch yng Nghymru ers 1991[2]. Yn 2011, bu farw 28% yn fwy yng Nghymru o hunanladdiad nag yn Lloger. Roedd hyn yn cynnwys 270 o ddynion a 71 o fenywod dros 15 oed.


Yn 2012 roedd cyfradd hunanladdiad o 13.5 i bob 100,000 o bobl yn y wlad. Roedd y gyfradd hon yn uwch nag yn Lloegr (10.4 i bob 100,000) a'r Deyrnas Unedig gyfan (11.6 i bob 100,000). O'r 334 o bobl a fu'n lladd eu hunain yng Nghymru y flwyddyn honno, roedd 257 ohonynt yn ddynion.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Croeso i gynllun atal hunanladdiad. Golwg360 (12 Rhagfyr 2014). Adalwyd ar 12 Rhagfyr 2014.
  2. Gwefan BBC Cymru Fyw. (12 Ragfyr 2014) Adalwyd ar 12 Rhagfyr 2014
  3. (Saesneg) Latest figures on suicide shows Welsh rate remains higher than across the UK. WalesOnline (18 Chwefror 2014). Adalwyd ar 12 Rhagfyr 2014.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.