Human Rights Watch

Oddi ar Wicipedia
Human Rights Watch
Enghraifft o'r canlynolinternational non-governmental organization, sefydliad di-elw, sefydliad hawliau dynol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1978, 1988 Edit this on Wikidata
SylfaenyddRobert L. Bernstein, Aryeh Neier, Jeri Laber Edit this on Wikidata
RhagflaenyddHelsinki Watch Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolInternational Freedom of Expression Exchange, Campaign to Stop Killer Robots, Forum Menschenrechte Edit this on Wikidata
Gweithwyr450 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolnon-profit organisation, sefydliad 501(c)(3) Edit this on Wikidata
PencadlysDinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.hrw.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo Human Rights Watch

Corff heb gysylltiad â llywodraeth sy'n amddiffyn hawliau dynol yw Human Rights Watch (HRW). Lleolir ei bencadlys yn Ninas Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau ac mae ganddo swyddfeydd mewn sawl dinas o gwmpas y byd. Fe'i sefydlwyd yn 1988 ar ôl cyfuno sawl mudiad, yn enwedig Helsinki Watch. Rhoddwyd wobr Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig i Human Rights Watch yn 2008 (ar y cyd â Louise Arbour, Benazir Bhutto, Ramsey Clark, yr Athro Carolyn Gomes, yr Athro Denis Mukwege a'r Chwaer Dorothy Stang)[1]

Mae HRW yn gweithredu ar lefel ryngwladol i geisio sicrhau fod y Datganiad Cyffredinol ar Hawliau Dynol yn cael ei barchu ymhob gwlad, er enghraifft mewn perthynas â rhyddid mynegiant, yn cynnwys rhyddid y wasg. Mae'n ceisio dod â throseddau rhyfel â masnachu arfau anghyfreithlon i sylw'r byd ac yn barod i feirniadu llywodraethau sy'n euog o hynny. Mewn canlyniad mae HRW wedi cael ei feirniadu gan rai am fod yn fudiad gydag amcanion gwleidyddol, er enghraifft pan gondemniodd Llu Amddiffyn Israel am ei ddefnydd o ffosfforws gwyn yn Gaza yn 2009.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]