Hugh Hughes (telynor)

Oddi ar Wicipedia
Hugh Hughes
Ganwyd1830 Edit this on Wikidata
Llandrygarn Edit this on Wikidata
Bu farw24 Ionawr 1904 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethtelynor Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler Hugh Hughes.

Telynor Cymreig oedd Hugh Hughes (1830 - 24 Ionawr 1904). Roedd yn frodor o Ynys Môn.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Hugh Hughes ym mhlwyf Llandrygarn yng ngogledd-orllewin Sir Fôn yn y flwyddyn 1830. Roedd yn fab i'r telynor John Hughes (1802-1889).[1]

Ymhyfrydai yn ieuanc mewn cerddoriaeth a chyfansoddodd lawer o alawon a thonau a rhai anthemau hefyd. Roedd yn amlwg fel telynor llwyfan ac eisteddfod. Ei athro ar y delyn oedd T. D. Morris, Bangor. Fel ei dad, canai y delyn deir-res Gymreig.[1]

Bu farw ar y 24ain o Ionawr, 1904, yn 73 oed; fe'i claddwyd ym mynwent Llandrygarn, fel ei dad o'i flaen.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 R. Môn Williams, Enwogion Môn (Bangor, 1913).


Eginyn erthygl sydd uchod am gerddor. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.