Hugh Morgan-Owen

Oddi ar Wicipedia
Hugh Morgan-Owen
Ganwyd1882 Edit this on Wikidata
Y Rhyl Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mawrth 1953 Edit this on Wikidata
Swydd Derby Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Hugh Morgan-Owen
Gwybodaeth Bersonol
Dyddiad geni1882
Man geniY Rhyl, Cymru
Dyddiad marw6 Mawrth 1953
Man lle bu farwRepton, Swydd Derby
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1896–1900Ysgol Amwythig
1900–1904Prifysgol Rhydychen
1904–1907Corinthian
1906–1908Y Trallwng
Tîm Cenedlaethol
1900–1907Cymru5(1)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Cyn bêl-droediwr Cymreig oedd Hugh Morgan-Owen (18826 Mawrth 1953). Llwyddodd i ennill 5 cap dros Gymru rhwng 1900 a 1907 ac roedd yn aelod o glwb pêl-droed amatur Corinthian.

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Cafodd Morgan-Owen ei eni yn Y Rhyl y pedwerydd o chwech o blant i Timothy Morgan-Owen, Arolygwr Ysgolion, ac Emma Maddox.[1] Cafodd ei addysg yn Ysgol Amwythig a Choleg Hertford, Rhydychen gan gynrychioli tîm pêl-droed Prifysgol Rhydychen yn eu gêm flynyddol yn erbyn Prifysgol Caergrawnt ar dair achlysur - ym 1902, 1903 a 1904.[2] Roedd yn frawd i Morgan Maddox Morgan-Owen.

Gyrfa Bêl-droed[golygu | golygu cod]

Gwnaeth Morgan-Owen ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ym 1900 yn erbyn Lloegr tra ym Mhrifysgol Rhydychen ac wedi gadael y Brifysgol, chwaraeodd i dîm amatur enwog Corinthian ac i'r Trallwng.

Ym 1903, er cael ei ddewis i chwarae dros Gymru yn erbyn Lloegr, penderfynnodd Morgan-Owen, a'i frawd Morgan Maddox Morgan-Owen, oedd hefyd yn chwaraewr rhyngwladol, i chwarae i dîm yr Old Salopians yn erbyn yr Old Carthusians yn rownd derfynol Cwpan Arthur Dunn - cystadleuaeth i dimau cyn ddisgyblion Ysgolion Bonedd - ar yr un prynhawn.[3][4][5]

Teithiodd Morgan-Owen gyda thîm Corinthian i Baris ym 1908 gyda'i frawd, Morgan.[6]

Nigeria[golygu | golygu cod]

Ym 1909, ymunodd Morgan-Owen â Gwasanaeth Sifil Nigeria gan ddod yn Gomisiynydd Rhanbarthol ym 1925 hyd nes ei ymddeoliad ym 1931.[3][7]

Bu farw yn Repton, Swydd Derby ar 6 Mawrth 1953.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "James Owen of Penrhos and his descendants". Owen Cholerton. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Varsity Matches: Hugh Morgan-Owen". ouafc.com.[dolen marw]
  3. 3.0 3.1 Davies, Gareth M.; Garland, Ian (1991). Who's Who of Welsh International Soccer Players. Bridge Books. t. 143. ISBN 1 872424 11 2.
  4. "Varsity Match 1899/1900". ouafc.com.[dolen marw]
  5. "History of the Old Salopian Football Club". Old Salopian FC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-28. Cyrchwyd 2016-03-13.
  6. "Corinthians - Taking the Beautiful Game Across the Globe". Corinthian-Casuals.com.
  7. "Hugh Morgan-Owen (1882 - 1953)". Owen Cholerton. Unknown parameter |published= ignored (help)