Hu Gadarn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
"Hu Gadarn yn Arwain y Cymry i Ynys Prydain" (o faner tudalen blaen Y Celt, cylchgrawn o'r 1880au). Mae'r teitl yn llythrennau Coelbren y Beirdd, un arall o luniadau Iolo Morganwg.

Arwr Cymreig chwedlonol, ffrwyth dychymyg Iolo Morgannwg yn bennaf, yw Hu Gadarn.[1]

Fe'i portreadir gan Iolo yn ei "Drydedd Gyfres" o Drioedd Ynys Prydain, sef 'Trioedd Beirdd Ynys Prydain' (a gyhoeddwyd yn y Myvyrian Archaiology of Wales), fel math o arwr cenedlaethol a oedd yn ymgorffori pob agwedd ar ddiwylliant y Cymry, yn fath o hynafydd totemaidd, fel petai. Yn ôl Iolo, arweiniodd Hu y Cymry i Ynys Prydain o Ddeffrobani (enw canoloesol ar Sri Lanka a fenthycwyd gan Iolo). Dysgodd Hu y Cymry sut i gyfanheddu'r tir a byw yn heddychlon â'i gilydd yn ogystal a chrefft Cerdd Dafod er mwyn diogelu'r cof am yr hyn a fu.

Ymddengys fod Iolo wedi benthyg cymeriad Hu Gadarn o'r gerdd ganoloesol enwog "Cywydd y Llafurwr", gan Iolo Goch (tua 1320–1398). Yn y cywydd hwnnw mae Iolo Goch yn adrodd sut y bu rhaid i Hu Gadarn, oedd yn ymerawdr Caergystennin (Constinobl), lywio aradr a bwydo ei hun o ffrwyth ei waith yn unig.

Hu Gadarn, feistr hoyw giwdawd,
Brenin a roes gwin er gwawd,
Ymherodr tir a moroedd,
Cwnstabl aur Constinobl oedd,
Daliodd ef wedi diliw
Aradr gwaisg arnoddgadr gwiw.[2]

Mae'r foeswers honno yn deillio o ffynhonnell Ffrangeg a gyfieithwyd i'r Gymraeg yn y 13eg ganrif dan yr enw Campau Charlymaen; trosodd y cyfieithydd enw un o'r arwyr, Hugun le Fort fel "Hu Gadarn".

Ffugiodd Iolo Morganwg draddodiad arall am Hu Gadarn yn defnyddio ei ychen bannog i dynu'r afanc o'r llyn ac felly gwaredu Ynys Prydain o'r dylifiadau a achoswyd gan yr anghenfil chwedlonol honno.

Roedd llawer o bobl yn credu yn chwedl Hu Gadarn, sy'n ddeniadol, a cheir nifer o gyfeiriadau at Hu yn llenyddiaeth y 19eg ganrif. Er bod rhai ysglheigion yn amau dilysrwydd y traddodiad cyn hynny, bu rhaid aros tan yr 20fed ganrif i brofi mai un arall o ffugiadau niferus Iolo Morganwg oedd Hu Gadarn fel un o gyndeidiau chwedlonol y Cymry.

Neo-dderwyddiaeth[golygu]

Mewn Neo-dderwyddiaeth cyfeirir at Ddefrobani Iolo Morganwg fel 'Atlantia' ac uniaethir Hu Gadarn â'r duw Celtaidd Esus. Llyncodd Robert Graves hanes Iolo yn gyfan, ac uniaethodd Hu Gadarn â duw corniog y Cymry yn y cyfnod Celtaidd.[3] Mae'r Israeliaid Prydeinig, sy'n credu bod hynafiaid pobl Prydain yn dod o Israel, yn uniaethu Hu â'r cymeriad Beiblaidd Joshua, tra bod eraill, gan ddilyn syniad ieithegol Iolo Morganwg a fynegwyd ganddo yn ei lyfr Barddas, yn ei uniaethu â Iesu o Nasareth, dan yr enw 'Hu-Hesus'.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. A. C. Rejhon, 'Hu Gadarn: Folkore and Fabrication', yn Celtic Folkore and Christianity, gol. Patrick K. Ford (Santa Barbara, 1983), tt. 201-12.
  2. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988), cerdd xxviii, llau. 63-68.
  3. Robert Graves, The White Goddess

Gweler hefyd[golygu]