Hoy
Oddi ar Wicipedia
Hoy yw'r ail-fwyaf o Ynysoedd Erch yng ngogledd-ddwyrain yr Alban. Mae'r ynys yn un fryniog, gyda'r copa uchaf yn cyrraedd 479 medr uwch lefel y môr, pwynt uchaf Ynysoedd Erch, tra mae'r arfordir yn greigiog, gyda nifer o glogwyni uchel. Ar yr arfodir gorllewinol mae stac enwog yr Old Man of Hoy, 137 medr o uchder.
Roedd poblogaeth yr ynys yn 2001 yn 272.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Canolfan ymwelwyr Scapa Flow
- Tyrrau Martello