Howden

Oddi ar Wicipedia
Howden
Mathtref, plwyf sifil, tref farchnad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolRiding Dwyreiniol Swydd Efrog
Poblogaeth4,142 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDwyrain Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.7441°N 0.8634°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04000417 Edit this on Wikidata
Cod OSSE749281 Edit this on Wikidata
Cod postDN14 Edit this on Wikidata
Map

Tref a phlwyf sifil yn Nwyrain Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, ydy Howden.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Riding Dwyreiniol Swydd Efrog.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 4,142.[2]

Rhoddodd Wiliam I, brenin Lloegr y dref i Esgobion Durham yn 1080.[3] Enwyd y cantref 'Howdenshire' ar ôl y dref, a pharhaodd yn rhan o Swydd Durham hyd at 1846. Defnyddiwyd ffiniau gwreiddiol y cantref ar gyfer dwy ward lywodraethol gyfredol Howden a Howdenshire, a oedd â phoblogaeth gyfun o 19,753 yng nghyfrifiad 2011.[4][5]

Mae Howden wedi'i leoli ym Mro Efrog, ar yr A614, er bod traffordd yn amgylchynu'r dref ei hun. Saif yn agos at draffyrdd yr M62 a'r M18, gerllaw i Goole sydd yr ochr arall i Afon Ouse. Gwasanaethir y dref gan orsaf reilffordd Howden, sydd yng Ngogledd Howden a'n gwasanaethu trefi fel Leeds, Selby, Efrog, Hull a Llundain.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 17 Mehefin 2020
  2. City Population; adalwyd 17 Mehefin 2020
  3. "Howden Minster". Howden Minster. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Chwefror 2007. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2006.
  4. Nodyn:NOMIS2011
  5. Nodyn:NOMIS2011