How Green Was My Valley
Oddi ar Wicipedia
| How Green Was My Valley | |
|---|---|
| Awdur | Richard Llewellyn |
| Teitl gwreiddiol | How Green Was My Valley |
| Gwlad | Deyrnas Unedig |
| Iaith | Saesneg |
| Genre(s) | Ffuglen hanesyddol, Drama, Nofel |
| Dyddiad cyhoeddi | 1939 |
| Tudalennau | 651td (argraffiad cyntaf) |
| Rhif OCLC | 299207 |
| Dilynwyd gan | 'Up Into the Singing Mountain (1960)' |
Nofel gan Richard Llewellyn yw How Green Was My Valley (1939). Mae'r nofel yn darlunio bywyd caled mewn pentref glofaol yn ne Cymru.
Yn 1941 gwnaethpwyd ffilm o'r nofel wedi'i ffilmio yng Nghaliffornia gydag actorion Americanaidd, Gwyddelig ac Albanaidd. Yr unig Gymry oedd yr 'ecstras'. Roedd y darlun o'r pentref yn wahanol iawn i'r nofel; yn llawn sentiment gyda phawb yn y pentre yn gyfforddus ac yn canu mewn côr. Doedd dim sôn am y tlodi a'r diweithdra yr oedd y pentrefi glofaol yn ei ddioddef.