Horrible Histories
Oddi ar Wicipedia
Mae Horrible Histories yn gyfres llyfrau hanesyddol, ac hefyd yn rhaglen deledu ar CBBC. Cyhoeddwyd y llyfrau yn y Deyrnas Unedig gan Scholastic. Bwriad y llyfrau yw i gael plant i ymddiddori mewn hanes trwy ganolbwyntio ar ffeithiau anghyffredin, gwaedlyd neu annymunol. Bu'r gyfres yn hynod lwyddiannus o safbwynt masnachol. Ysgrifennwyd y llyfrau gan Terry Deary, Peter Hepplewhite a Neil Tonge ac fe'u darluniwyd gan Martin Brown, Mike Phillips a Philip Reeve.
Cyhoeddwyd y llyfrau cyntaf yn y gyfres, "The Terrible Tudors" a "The Awesome Egyptians", ym mis Mehefin 1993. Ers hynny mae nifer o'r llyfrau wedi cael eu haddasu i'r Gymraeg.