Hollt Gwener

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hollt Gwener, yn union o dan Mynydd Gwener
Ar lafar clywir y gair "troed camel" (Saesneg:cameltoe) am hollt Gwener.

Hollt wrth waelod y mons veneris lle mae'n ymrannu i ffurfio'r labia majora yw hollt Gwener (Lladin, rima pudendi). Yn achos rhai merched, mae cwfl y clitoris a'r labia minora yn gwthio trwy hollt Gwener, ond dim ym mhob achos. Enwir yr hollt ar ôl Gwener, duwies serch y Rhufeiniaid.

Mae amlygrwydd yr hollt yn amrywio. Weithiau mae'r blew piwbig yn ei orchuddio yn gyfangwbl ac mae'n amlycaf mewn oedolion benywaidd pan fo'r blew piwbig wedi'i siafio, ffasiwn sydd wedi dod yn fwy poblogaidd yn y Gorllewin ac sy'n arferol mewn rhai diwylliannau, e.e. yn achos gwledydd Islamaidd.

Gweler hefyd[golygu]

Skull template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.