Hirundinidae

Oddi ar Wicipedia
Hirundinidae
(Teulu'r Wennol)
Gwennol dingoch
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Is-urdd: Passeri
Teulu: Hirundinidae
Vigors, 1825
Genera

Ceir 19 genws

Teulu o adar ydyw Hirundinidae (neu Gwenoliaid yn Gymraeg); mae'r Wennol Ewropeaidd (Hirundo rustica) yn cael ei hadnabod ar lafar yng Nghymru fel 'Gwennol'. Un peth sy'n gyffredin rhwng aelodau gwahnol y teulu yw eu bod i gyd yn bwyta ar yr adain h.y. tra'n hedfan.

Mae'r teulu'n cynnwys dau is-deulu: y Pseudochelidoninae o'r genws Pseudochelidon a'r Hirundininae. Mae'r teulu Hirundinidae yn cynnwys cyfanswm o 19 genws.

Mae aelodau'r teulu - y gwenoliaid - i'w cael ledled y byd, ym mhob cyfandir ar wahân i Antartig. Credir bellach i'r teulu esblygu yn wreiddiol yn Affrica ac yno mae'r amrywiaeth mwyaf ohonynt i'w weld heddiw. Mae rhai o'r teulu'n meudwyo.

Rhywogaethau o fewn y teulu[golygu | golygu cod]

Rhestr Wicidata:

teulu enw tacson delwedd
Q28812972 Pygochelidon melanoleuca
Q55112153 Pygochelidon cyanoleuca
Gwennol Môr India Phedina borbonica
Gwennol benwinau Alopochelidon fucata
Gwennol dinllwyd Pseudhirundo griseopyga
Gwennol glennydd fraith Phedina brazzae
Phedinopsis brazzae
Gwennol lifadeiniog ddu Psalidoprocne pristoptera
Gwennol lifadeiniog gynffonsgwar Psalidoprocne nitens
Gwennol ludlwyd Orochelidon murina
Gwennol y clogwyn Ptyonoprogne rupestris
Gwennol yddfbinc Orochelidon flavipes
Gwennol yr Andes Orochelidon andecola
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]