Hiroshige
Oddi ar Wicipedia
Portread coffhaol o Hiroshige gan Kunisada.
Yr oedd Utagawa Hiroshige ( Siapaneg 歌川広重) (1797-12 Hydref, 1858), a aned yn Edo ar ynys Honshu, yn arlunydd Siapaneaidd yn yr ysgol ukiyo-e, un o'r artistiaid mawr olaf yn y traddodiad hwnnw. Defnyddiai hefyd yr enwau proffesiynol "Andō Hiroshige" (安藤広重) - neu, yn anghywir "Andro Hiroshige" - ac "Ichiyusai Hiroshige").
Cafodd ei hyfforddiant artistaidd dan law yr hen feistr ukiyo-e Toyohiro (1774-1829).
Ar ddechrau ei yrfa arbenigai Hiroshige mewn porteadau o ferched. O tua 1830 ymlaen dechreuodd droi ei law at ddarlunio tirluniau rhamantaidd, yn aml dan eira, yn y glaw neu yng ngolau'r lleuad.
Cysylltiadau allanol [golygu]
- (Saesneg) Encyclopedia Britannica
- (Saesneg) Erthyglau a lluniau
- (Ffrangeg) Hiroshige yn y WebMuseum, Paris
- (Saesneg) Proffeil o Hiroshige