Hiriell

Oddi ar Wicipedia

Arwr traddodiadol a gysylltir â Gwynedd yw Hiriell neu Hirell. Mab Darogan y deyrnas honno oedd Hiriell yn y canu darogan yn yr Oesoedd Canol. Daeth ei enw yn air cyffredin am 'arwr' hefyd.

Wyddom ni ddim byd amdano ond mae'n amlwg ei fod yn arweinydd neu frenin cynnar yn ardal Gwynedd. Yng ngwaith y Gogynfeirdd cyfeirir at bobl Gwynedd fel 'hil Hiriell' a Môn ac Arfon fel 'bro Hiriell'.

Mewn cerdd ddarogan yn Llyfr Taliesin ceir y llinell

'fflemychawt hirell ty uch hafren'
(Bydd Hiriell yn codi fflamau uwch afon Hafren)

Yn y cerddi darogan cynnar a elwir Yr Oianau, sydd i'w cael yn Llyfr Du Caerfyrddin a llawysgrifau eraill, mae Myrddin yn dweud y bydd Hiriell yn gwaredu Gwynedd rhag teyrnas Powys ar ôl 'codi o'i hir-orwedd' (fel Arthur a gwaredwyr eraill mae'n cysgu hyd nes daw'r amser penodedig):

'Rhy-ddyfydd diw Mawrth dydd gwythlonedd'
'Cyf-rhwng glyw Powys a chlas Gwynedd.'
'A chyfod Hir(i)ell o'i hir orwedd'
'I amwyn a'i elyn derfyn Gwynedd.'
(Llyfr Du Caerfyrddin: orgraff ddiweddar)

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Elissa R. Henken, National Redeemer: Owain Glyndŵr in Welsh Tradition (Caerdydd, 1996)
  • A.O.H. Jarman (gol.), Llyfr Du Caerfyrddin (Caerdydd, 1982)
  • Ifor Williams (gol.), Armes Prydain (Caerdydd, 1955), tud. ix