Hindŵaeth yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia

Crefydd gymharol ddiweddar yw Hindŵaeth yng Nghymru, gyda thrwch Hindŵiaid Cymreig wedi ymsefydlu yno yn ystod ail hanner yr 20g. Amcangyfrifir fod tua 5,000 o Hindŵiaid yn y wlad gyda'r rhan fwyaf yn byw yn y de-ddwyrain.[1]

Gwreiddiau[golygu | golygu cod]

Mae mwyafrif Hindŵiaid Cymru o dras Indiaidd neu o wledydd cyfagos ar isgyfandir India, sef Sri Lanca, Pacistan, Nepal a Bangladesh. Daeth ton o Hindŵiaid i'r wlad fel ffoaduriaid ar ôl i'r unben Idi Amin eu taflu allan o Wganda yn y 1970au. Yn ogystal ceir rhai a ddaeth o Indonesia a De Affrica yn wreiddiol. O blith y rhai o dras Indiaidd, mae nifer yn hannu o'r Punjab.

Diwylliant[golygu | golygu cod]

Ar wahân i Gymraeg a Saesneg, mae'r ieithoedd a siaredir gan Hindŵiaid Cymreig yn cynnwys Punjabi, Hindi, Wrdw a Gujarati.

Mae'r Hindu Cultural Association ('HCA Cymru'), a sefydlwyd ym Mawrth 1991, yn elusen gofrestredig sy'n cael ei rhedeg gan Hindŵiaid er mwyn integreiddio yn y wlad a hyrwyddo cysylltiadau o fewn y gymuned Hindŵaidd ryngwladol[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Multicultural Wales bbc.co.uk, cyrchwyd 10 Ionawr 2009
  2. About us Archifwyd 2009-05-01 yn y Peiriant Wayback. indiacentre.co.uk.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Hindŵaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.