Hilma Lloyd Edwards
Oddi ar Wicipedia
| Hilma Lloyd Edwards | |
|---|---|
| Ganwyd | 1959 Bontnewydd, Gwynedd, Cymru |
| Yn enwog am | Ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008 |
| Galwedigaeth | Llenor |
Awdures Gymraeg yw Hilma R. Lloyd Edwards (ganed 1959). Daw o'r Bontnewydd, Gwynedd.
Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Bontnewydd, Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Abertawe, lle derbyniodd radd dosbarth cyntaf mewn Hen Hanes ac MA mewn Eifftoleg.
Yn 2008, enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008 am ei cherdd ar y thema "Tir Newydd". Hi oedd yr ail ferch yn unig i ennill y Gadair erioed.
Mae hi wedi cyhoeddi deuddeg llyfr i blant.
Gweithiau [golygu]
- Gwibdaith Gron
- Gwyliau Cochyn Bach
- Myrddin yr Ail
- Pysgodyn Cochyn Bach
- Y Mabin-OD-I
- Tir Newydd a Cherddi Eraill (Medi 2008, Gwasg y Bwthyn, ISBN 9781904845706 (1904845703))
- Lleidr yn y Tŷ (Hydref 2006, Gwasg Gomer, ISBN 9781843236221 (1843236222))
- 'Slawer Dydd: Y Llo Gwyn (Tachwedd 2003, Gwasg Gomer ISBN 9781843232599 (1843232596))