Hiero II, brenin Siracusa

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cofeb bedd Hiëro II yn Siracusa

Brenin dinas-wladwriaeth Siracusa ar ynys Sisili oedd Hiero II, yn wreiddiol Hieron (bu farw 215 CC.

Roedd Hieron yn gadfridog ym myddin Pyrrhus o Epirus. Pan adawodd Pyrrhus ynys Sisili yn 275 CC, apwyntiodd trigolion Siracusa Hieron yn gadfridog.

Daeth i'r orsedd yn 269 CC. Roedd y Mamertiaid, hurfilwyr yn wreiddiol o ardal Campania, oedd wedi eu llogi gan Agathocles, cyn-unben Siracusa, wedi cipio dinas Messana (Messina heddiw). Llwyddodd Hieron i'w gorchfygu mewn brwydr ger afon Longanus ger Mylae, er i fyddin Garthaginaidd ei atal rhag cipio Messana. Yn dilyn ei fuddugoliaeth, gwnaeth trigolion Siracusa ef yn unben a brenin Siracusa fel Hieron II.

Bu gan Hiero ran yn nechreuad y Rhyfel Pwnig Cyntaf rhwng Gweriniaeth Rhufain a Carthago yn 264 CC. Dechreuodd y rhyfel pan ymosododd Hiero ar y Mamertiaid unwaith eto. Gofynnodd y Mamertiaid yn gofyn am gymorth Carthago, ond wedi atal ymosodiad Hiro, gwrthododd y Carthaginiaid adael. Trôdd y Mamertiaid at y Rhufeiniaid am gymorth, a chroesodd y conswl Rhufeinig Appius Claudius Caudex i Sicilia gyda dwy leng, y tro cyntaf i fyddin Rufeinig groesi'r môr.

Yn 263 CC, cytunodd a'r conswl Manius Valerius Messalla i wneud cynghrair â Gweriniaeth Rhufain. Cadwodd Hiero at y cynghrarir hwn am weddill ei oes.

Roedd y gwyddonydd Archimedes yn berthynas iddo. Yn ôl stori a adroddir gan Vitruvius, roedd gôf aur wedi rhoi coron o aur i Hiero. Amheuai Hiero a oedd yn aur pur, a gofynnodd i Archimedes ymchwilio i hyn. Wrth gamu i mewn i'r baddon un diwrnod, sylweddolodd Archimedes fod lefel y dŵr yn y baddon yn codi, a bod hyn yn rhoi dull o fesur foliwm. Rhedodd yn noeth trwy'r strydoedd yn gweiddi eureka.