Heuldro
Oddi ar Wicipedia
| Dyddiad ac amser (UTC) heuldroadau a chyhydnosau | ||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| blwyddyn | Cyhydnos Mawrth Alban Eilir |
Heuldro Mehefin Alban Hefin |
Cyhydnos Medi Alban Elfed |
Heuldro Rhagfyr Alban Arthan |
||||
| dydd | amser | dydd | amser | dydd | amser | dydd | amser | |
| 2004 | 20 | 06:49 | 21 | 00:57 | 22 | 16:30 | 21 | 12:42 |
| 2005 | 20 | 12:33 | 21 | 06:46 | 22 | 22:23 | 21 | 18:35 |
| 2006 | 20 | 18:26 | 21 | 12:26 | 23 | 04:03 | 22 | 00:22 |
| 2007 | 21 | 00:07 | 21 | 18:06 | 23 | 09:51 | 22 | 06:08 |
| 2008 | 20 | 05:48 | 20 | 23:59 | 22 | 15:44 | 21 | 12:04 |
| 2009 | 20 | 11:44 | 21 | 05:45 | 22 | 21:18 | 21 | 17:47 |
| 2010 | 20 | 17:32 | 21 | 11:28 | 23 | 03:09 | 21 | 23:38 |
| 2011 | 20 | 23:21 | 21 | 17:16 | 23 | 09:04 | 22 | 05:30 |
| 2012 | 20 | 05:14 | 20 | 23:09 | 22 | 14:49 | 21 | 11:11 |
| 2013 | 20 | 11:02 | 21 | 05:04 | 22 | 20:44 | 21 | 17:11 |
| 2014 | 20 | 16:57 | 21 | 10:51 | 23 | 02:29 | 21 | 23:03 |
| 2015 | 20 | 22:45 | 21 | 16:38 | 23 | 08:20 | 22 | 04:48 |
| 2016 | 20 | 04:30 | 20 | 22:34 | 22 | 14:21 | 21 | 10:44 |
| 2017 | 20 | 10:28 | 21 | 04:24 | 22 | 20:02 | 21 | 16:28 |
Mae heuldro (hefyd heulsaf neu heulsafiad yn digwydd dwy waith y flwyddyn, pan mae echelin y Ddaear yn gogwyddo bellaf tuag at, neu oddi wrth yr haul, gan achosi i'r haul fod yn bellach i'r gogledd neu i'r de ganol-dydd.
Ceir heuldro'r haf (hefyd "heulsafiad yr haf" neu "hirddydd yr haf") pan fo'r dydd hiraf (tua Mehefin 21ain) a "heuldro'r gaeaf" (hefyd "heulsafiad y gaeaf" neu "byrddydd y gaeaf") pan fo'r dydd ar ei fyraf (Rhagfyr 21ain, fel arfer).
Mae'r term hefyd yn cael ei ddenyddio yn fwy cyffredinol i gyfeirio at y dyddiad neu'r diwrnod y mae hyn yn digwydd. Mae'r heuldroadau ynghyd â chyhydnosau yn gysylltiedig â'r tymhorau. Mewn rhai diwylliannau mae'r heuldroadau yn nodi dechrau, canol neu ddiwedd tymor.