Hermon (Ynys Môn)

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan ar Ynys Môn yw Hermon. Enwir y pentref ar ôl y mynydd sanctaidd yn y Beibl, Mynydd Hermon. Milltir i'r gogledd o Hermon ceir pentref bychan arall ag enw Beiblaidd, sef Bethel.

Gorwedd Hermon ar ochr orllewinol Ynys Môn tua hanner milltir i'r dwyrain o bentref Llangadwaladr, ar ffordd yr A4080 rhwng Aberffraw i'r gorllewin a Malltraeth i'r dwyrain. Milltir i'r de ceir traeth y Malltraeth.

CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato