Heraclius

Oddi ar Wicipedia
Heraclius
Ganwydc. 575 Edit this on Wikidata
Cappadocia Edit this on Wikidata
Bu farw11 Chwefror 641 Edit this on Wikidata
Caergystennin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Bysantaidd Edit this on Wikidata
TadHeraclius the Elder Edit this on Wikidata
MamEpiphania Edit this on Wikidata
PriodFabia Eudokia, Martina Edit this on Wikidata
PlantEudoxia Epiphania, Heraclius Constantine, John Athalarichos, Konstantinos Heteros, Unknown, Theodosius, Heraklonas, David, Martinus, Augoustina, Unknown, Martinha, Unknown Edit this on Wikidata
LlinachHeraclian dynasty Edit this on Wikidata
Heraclius a'i feibion ar solidus

Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 610 a 641 oedd Heraclius, Groeg: Ηράκλειος, Hērakleios (c. 57511 Chwefror, 641.

Roedd ei dad, hefyd o'r enw Heraclius, wedi bod yn un o gadfridogion amlycaf yr ymerawdwr Mauricius, a daeth yn exarch talaith Affrica. Yn 608 dechreuodd y ddau Heraclius wrthryfel yn erbyn yr ymerawdwr Phocas, ac yn 610 daeth Heraclius y mab yn ymerawdwr, gan ladd Phocas a'i ddwylo ei hun.

Ymosododd y Persiaid ar Asia Leiaf, gan gipio Damascus a Jeriwsalem a dwyn y Wir Groes i Ctesiphon. Llwyddodd Heraclius i ddinistrio'r fyddin Bersaidd ger Ninefeh yn 627, a dychwelyd y Wir Groes i Jeriwsalem yn 629. Roedd yr ymladd wedi gwanhau yr ymerodraeth Fysantaidd a'r Persiaid fel ei gilydd, gan ei gwneud yn anodd iddynt wrthsefyll y byddinoedd Arabaidd a ymosododd arnynt yn y blynyddoedd nesaf. Gorchfygwyd y Bysantiaid gan yr Arabiaid ym Mrwydr Yarmuk yn 636, tra syrthiodd Ctesiphon iddynt yn 634.

Heraclius oedd yr ymerawdwr cyntaf i ddefnyddio'r teitl Groeg Basileus (Βασιλεύς) yn lle'r teirl Lladin traddodiadol Augustus, a dechreuwyd defnyddio Groeg yn lle Lladin mewn dogfennau swyddogol. Roedd llawer o ddadleuon diwinyddol rhwng y monoffisiaid a'r Chalcedoniaid, ac awgrymodd Heraclius gyfaddawd, monotheletiaeth, a gyhoeddwyd mewn dogfen a roddwyd ar narthex eglwys Hagia Sophia yn 638. Erbyn hyn roedd yr Arabiaid wedi cipio Syria a Palesteina, a syrthiodd yr Aifft iddynt yn 642.

Llwyddodd Heraclius i sefydlu brenhinllin yr Heracliaid, a barhaodd hyd 711.