Henry William Paget
Oddi ar Wicipedia
Ardalydd 1af Môn oedd Henry William Paget (17 Mai 1768 - 29 Ebrill 1854). Codwyd cofgolofn iddo ger Llanfairpwllgwyngyll yn 1816. Ef fu'n gyfrifol am y gwŷr meirch ym mrwydr Waterloo lle cafodd ei glwyfo gan golli un goes. Yn ogystal â bod yn Ardalydd Môn, bu'n Arglwydd-Raglaw Iwerddon am gyfnod.
Canodd Y Bardd Cocos ambell bennill iddo:
- Y Marcwis of Anglesey a gollodd ei glun,
- Pe gollith o'r llall fydd gyno fo run!
neu, efallai'r pennill enwocaf:
- Y Marcwis of Anglesey, a'i gleddyf yn ei law:
- Pe bai'n bwrw glaw, fasa fo ddim yn medru newid llaw!
Dywedir iddo gael affêr gyda gwraig brawd Dug Wellington, sef yr Arglwyddes Charlotte Wellesley.