Henry Richard
Gweinidog gyda'r Annibynwyr a gwleidydd o Gymro oedd y Parch. Henry Richard AS (3 Ebrill 1812 – 20 Awst 1888), a adwaenid yng Nghymru fel "Yr Apostl Heddwch." Bu'n Aelod Seneddol o 1868 hyd 1888. Cofir Henry Richard yn bennaf fel hyrwyddwr achos heddwch a chyd-ddealltwriaeth ryngwladol ac fel ysgrifenydd y Gymdeithas Heddwch am ddeugain mlynedd (1848-84). Cyfranodd yn fawr at y mudiad yn erbyn caethwasaeth ac achosion eraill hefyd.
Ganed Richard yn Nhregaron, Ceredigion yn 1812, yn fab i'r Parch. Ebenezer Richard (1781-1837), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.
Roedd yn ffigwr blaenllaw yn rhengoedd y Rhyddfrydwyr Cymreig ac yn gyfaill i'r diwygiwr radicalaidd Seisnig Richard Cobden. Fe'i etholwyd yn AS Merthyr Tudful yn 1868.
Cyhoeddodd nifer o bamffledi a thraethodau, yn Gymraeg a Saesneg, ar bynciau mawr ei gyfnod, yn cynnwys Addysg yng Nghymru, safle'r iaith Gymraeg, Diwygio'r Tir, a Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru.
Cyhoeddiadau (detholiad) [golygu]
- Defensive War (1846, 1890),
- The Recent Progress of International Arbitration (1884)
- Memoirs of Joseph Sturge (1864)
- Letters on the Social and Political Condition of Wales (1866, 1884)
Darllen pellach [golygu]
- Charles S. Miall, Henry Richard M.P. (1889)
- Eleazar Roberts, Bywyd a Gwaith y diweddar Henry Richards (1907)