Henry Allingham

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Henry Allingham yn 2007.

Peiriannydd o Sais a wasanaethodd yn y Llynges Frenhinol a'r Awyrlu Brenhinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf oedd y Peiriannydd Awyr[1] Henry William Allingham (6 Mehefin 1896 – 18 Gorffennaf 2009). Ef oedd goroeswr olaf Brwydr Jutland ac yn un o'r goroeswyr olaf a wasanaethodd yn y lluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym mis Mawrth 2009 daeth yn y dyn hynaf erioed o'r Deyrnas Unedig, gan fyw'n hirach na'r Cymro John Evans,[2] ac roedd yn ddyn byw hynaf y byd o 19 Mehefin 2009 hyd ei farwolaeth mis yn hwyrach.[3]

Bywyd personol[golygu]

Cafodd ei eni yn Clapton, Hackney, Llundain. Priododd Dorothy Cater (1895–1970) ym 1918 a chafodd ddwy ferch. Bu farw yn Ovingdean, Dwyrain Sussex.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Henry Allingham a Denis Goodwin. Kitchener's Last Volunteer. Mainstream Publishing, 2008.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) Obituary: Air Mechanic Henry Allingham. The Daily Telegraph (19 Gorffennaf 2009). Adalwyd ar 12 Gorffennaf 2013.
  2. (Saesneg) Veteran is UK's oldest ever man. BBC (29 Mawrth 2009). Adalwyd ar 12 Gorffennaf 2013.
  3. (Saesneg) First World War veteran Henry Allingham, 113, is world's oldest man. The Daily Telegraph (19 Mehefin 2009). Adalwyd ar 12 Gorffennaf 2013.