Henry 'Hotspur' Percy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Henry Percy a'i wraig
Mae Hotspur yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Gweler hefyd Hotspur (gwahaniaethu).

Uchelwr Seisnig a mab hynaf Henry Percy, Iarll 1af Northumberland oedd Syr Henry Percy, mwy adnabyddus wrth ei lysenw Hotspur neu Harry Hotspur (20 Mai 1364/136621 Gorffennaf 1403).

Ganed ef yng nghastell Spofforth. Daeth yn amlwg fel rhyfelwr, gan ymladd yn erbyn yr Alban a Ffrainc. Yn Awst 1388, gorchfygwyd ef a'i gymeryd yn garcharor ym Mrwydr Otterburn gan fyddin Albanaidd dan James Douglas, 2il Iarll Douglas. Bu'n Llywodraethwr Bordeaux o 1393 hyd 1395. Wedi dychwelyd o Ffrainc, cynorthwyodd ei dad i ddiorseddu Rhisiart II, brenin Lloegr a rhoi Henry o Bolingbroke ar yr orsedd fel Harri IV.

Yn 1403, gwrthryfelodd ef a'i ewythr, Thomas Percy, Iarll Caerwrangon, yn erbyn Harri IV, a gwnaeth gytundeb ag Owain Glyndŵr. Cyn iddo fedru ymuno a lluoedd Glyndŵr, lladdwyd ef ym Mrwydr Amwythig yn erbyn y brenin. Dywedir fod ei fyddin yn trechu byddin y brenin, ond cododd Hotspur ddarn gwyneb ei helm, a tharawyd ef gan saeth, a'i ladd yn y fan. Heb eu harweinydd, ffôdd ei fyddin.