Henri Bergson
Oddi ar Wicipedia
Athronydd o Ffrainc oedd Henri-Louis Bergson (18 Hydref 1859 - 4 Ionawr 1941), a anwyd ym Mharis. Cafodd Wobr Nobel yn 1927. Cafodd ei ysgrifau a chyfrolau ar athroniaeth ddylanwad pellgyrhaeddol ar y meddwl modern a llenyddiaeth yr 20fed ganrif. Roedd yn llenor Ffrangeg penigamp hefyd a ysgrifennai mewn arddull disglair, rhwydd a nodweddir gan drosiadau llachar a rhyddiaith barddonol.
