Hengist

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Yn ôl traddodiad, arweinydd y Sacsoniaid yn amser Gwrtheyrn, oedd Hengist (Hen Saesneg Hengest "ceffyl", efallai o yth-hengest "ton ceffyl" i ddisgrifio un o donnau'r môr[1]) (fl. 5ed ganrif). Cyfeirir ato gan amlaf gyda'i frawd Hors. Roedd yn dad i Alys Rhonwen (Rhonwen). Fel yn achos Hors a Rhonwen (a ystyrid yn "Fam y Saeson" ac ymgnawdoliad twyll gan y Cymry), daeth Hengist yn symbol o'r Eingl-Sacsoniaid a'r Saeson i Gymry'r Oesoedd Canol.

Llun dychmygol o Hengist mewn cyfrol gan y cartograffydd John Speed

Cyfeirir at rywun o'r enw Hengist yn y gerdd Beowulf, ond ni ellir profi cysylltiad â Hengist, brawd Hors.

Yn y rhestrau o frenhinoedd Caint, enwir Hengist yn sefydlydd y llinach ac yn dad i Octha ac yn hendaid i Aethelbert ac Egbert ac eraill.

Ceir hanes Hengist a'i frawd yn ymsefydlu ym Mhrydain yn amser Gwrtheyrn a chyflafan Brad y Cyllyll Hirion yn Historia Brittonum Nennius lle fe'u disgrifir fel disgynyddion y duw Woden.[2] Yn ôl Nennius gwahoddodd Hengist Wrtheyrn a'i bendefigion i wledd yn ei lys. Ond ystryw oedd y cyfan i lofruddio'r Brythoniaid er mwyn meddianu Ynys Prydain. Cytunodd Gwrtheyrn, dall yn ei gariad at Ronwen, ond ar yr amod fod pawb yn ddiarfog yn y wledd. Ar air penodedig gan Hengist (Nemet eour Saxes! "Gafaelwch yn eich cyllyll!"), tynnodd y Saeson, oedd yn eistedd bob yn ail â'r Brythoniaid wrth y byrddau, eu cyllyll hirion a lladd tri chant o'r Brythoniaid. Dim ond un pendefig a lwyddodd i ddianc o'r gyflafan, sef Eidol, Iarll Caerloyw. Ni fu dewis gan Wrtheyrn wedyn ond ildio de Prydain i gyd i'r Sacsoniaid a ffoi a gweddill ei bobl i Gymru. Ceir ymhelaethiad lliwgar ar yr hanes gan Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britanniae.

Ceir cyfeiriad ato gan yr hanesydd Eingl-Sacsonaidd Beda hefyd (tua 731) yn meddianu Caint gyda'i frawd.[3]

Fe'i enwir gyda Hors yn y gerdd Gymraeg Armes Prydain hefyd, sy'n tynnu ar Nennius efallai trwy ddweud iddynt feddianu Thanet trwy dwyllo Gwrtheyrn.[4]

Cyfeirir at Hengist a'i frawd mewn un o Drioedd Ynys Prydain fel un o 'Dair Gormes Ynys Prydain':

Tair gormes a ddaeth i'r Ynys hon, ac nid aeth yr un drachefn ["yn ei hôl"].
Un ohonynt ciwdod ["llu"] y Coraniaid, a ddaethant yma yn oes Caswallon fab Beli, ac nid aeth yr un ohonynt drachefn. Ac o Asia yr oeddynt yn hanu.
Ail, Gormes y Gwyddyl Ffichti. Ac nid aeth yr un ohonynt drachefn.
Trydydd, Gormes y Saeson, a Hors a Hengist yn benaduriaid arnynt.[5]

Ceir sawl cyfeiriad ato gyda'i frawd yng ngwaith y beirdd a hefyd ar ei ben ei hun. Y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion bellach yw mai duwiau oedd a chysylltiad a cheffylau oedd y ddau yn wreiddiol, ac iddynt gael eu troi yn gymeriadau hanesyddol yn ddiweddarach.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd 1961; arg. newydd 1991). tud. 406.
  2. John Morris (gol.), Nennius (Phillimore, 1980), pennod 31 et. seq..
  3. Rachel Bromwich (gol.), op. cit., tud. 406.
  4. Ifor Williams (gol.), Armes Prydein (Caerdydd, 1955), llau. 31-2.
  5. Rachel Bromwich, op. cit., Triawd 36.