Hen Ffrindiau

Oddi ar Wicipedia
Clawr darluniedig argraffiad cyntaf Hen Ffrindiau gyda llun gan W. Mitford Davies (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1927)

Cyfrol o straeon byrion i blant gan Edward Tegla Davies yw Hen Ffrindiau, gyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam, yn 1927. Ei deitl llawn yw,

HEN FFRINDIAU. / Stori am gymeriadau / rhai o'r / Hen Benillion a'r Hen Ddywediadau.

Yn 12 pennod y llyfr cyflwynir stori ddolennol lawn dychymyg a hiwmor sy'n seiledig yn fras ar gymeriadau traddodiadol o'r Hen Benillion, rhigymau poblogaidd a'r hen ddywediadau Cymraeg. Dyfynnir y pennill neu ddywediad perthnasol ar ddechrau pob pennod. Cawn hanesion ffraeth am gymeriadau fel y Cobler Coch o Ruddlan, y Ddafad Gorniog, yr Ebol Melyn, yr Iâr sy'n gori ar ben mynydd Penmaen-mawr, y Wraig ar ei ffordd i Gorwen, yr Eneth Deg Benfelen sy'n byw ym Mhen y Graig, a nifer o rai eraill. Mae rhesymeg abswrd y straeon yn ymylu ar y swreal ar adegau. Clasur bach yw hwn, llyfr i "blant o bob oed", gan gynnwys oedolion.

Mae lluniau du a gwyn cydnaws yr arlunydd Cymreig Wilfred Mitford Davies yn ychwanegu at y bleser a geir o ddarllen y llyfr.


Edward Tegla Davies Tegla
Ar Ddisberod | Y Doctor Bach | Y Foel Faen | Gŵr Pen y Bryn | Gyda'r Blynyddoedd | Gyda'r Glannau | Hen Ffrindiau | Yr Hen Gwpan Cymun | Hunangofiant Tomi | Y Llwybr Arian | Nedw | Rhyfedd o Fyd | Rhys Llwyd Y Lleuad | Stori Sam | Tir Y Dyneddon