Hello Kitty

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cymeriad ffuglennol yw Hello Kitty (Japaneg: ハローキティ Harō Kiti)[1] (enw llawn: Kitty White)[2] a gynhyrchir gan y cwmni Japaneaidd Sanrio a dylunwyd yn wreiddiol gan Yuko Shimizu. Mae'n un o'r enghreifftiau enwocaf o kawaisa yn niwylliant poblogaidd Japan.[3] Cath gwta Japaneaidd wen fenywaidd yw'r cymeriad gyda chwlwm coch ar ei phen. Ymddangosodd yn gyntaf ar bwrs finyl a gyflwynwyd yn Japan ym 1974 ac yn yr Unol Daleithiau ym 1976.[4][5]

Mae Hello Kitty bellach yn boblogaidd yn fyd-eang ac mae'i nod masnach yn werth mwy na $10 i $500 biliwn y flwyddyn.[6] Er anelir at farchnad merched ifanc yn bennaf, mae cynnyrch Hello Kitty yn amrywio o byrsau, sticeri, a setiau ysgrifbinnau i dostwyr, setiau teledu, dillad, ac offer cyfrifiadurol. Mae ganddi ddilynwyr cwlt o oedolion hefyd, yn enwedig yn Asia, lle welir Hello Kitty ar geir, gemwaith, a nifer o gynnyrch traul uchelradd. Cynhyrchwyd hefyd cyfres anime Hello Kitty ar gyfer plant ifanc.[7] Ceir hefyd dau barc thema sy'n gysylltiedig â'r cymeriad, sef Harmonyland a Sanrio Puroland.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Japaneg) サンリオキャラクターたちの本名、言えますか? (11 Gorffennaf 2008).
  2. (Saesneg) Hello Kitty. Sanrio.
  3. (Saesneg) 10 Questions for Yuko Yamaguchi. TIME (21 Awst 2008).
  4. (Saesneg) Designing an Icon: Hello Kitty Transcends Generational and Cultural Limits. ToyDirectory (1 Ebrill 2003).
  5. (Saesneg) Hello Kitty celebrates 30. China News Daily (19 Awst 2005).
  6. Segers, Rien T. (2008). A New Japan for the Twenty-First Century. Routledge, tud. 127. ISBN 9780415453110URL
  7. (Saesneg) Sanrio's Hula Kitty heads to the beach. Honolulu Star-Bulletin (18 Mai 2003).