Helgoland

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Porthladd Helgoland.

Ynys fechan yw Helgoland (Almaeneg; Helgolandeg: deat Lun; hefyd Heligoland weithiau, yn enwedig yn Saesneg) a leolir ym Môr y Gogledd oddi ar arfodir gogledd-orllewinol yr Almaen. Defnyddir yr enw i gyfeirio at Helgoland a'r ynys fechan gyfagos gyda'i gilydd weithiau hefyd. Mae'n rhan o dalaith Schleswig-Holstein. Mae'r trigolion yn Ffrisiaid sy'n siarad Halunder, tafodiaith Ffriseg. Ei hyd yw tua 2 km.

Cipwyd yr ynys gan Brydain yn 1807 a bu yn ei meddiant hyd 1890 pan ddychwelodd i feddiant yr Almaen. Roedd y môr o'i chwmpas, sef yr Heligoland Bight neu'r "German Bight" yn lleoliad i sawl brwydr rhwng llyngesoedd y DU a'r Almaen yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Cyfansoddodd August Heinrich Hoffmann von Fallersleben "Das Lied der Deutschen" ar 26 Awst 1841 ar ynys Helgoland i gydfynd ag alaw gan Joseph Haydn.

Heddiw mae Helgoland yn gyrchfan gwyliau poblogaidd sy'n adnabyddus am ei tywynnau a chlogwynni lle ceir nifer o adar.

Flag Germany template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.