Hela'r dryw
Oddi ar Wicipedia
Yn Sir Benfro a mannau eraill arferid hela'r dryw (amrywiad: hela'r dryw bach) fel goroesiad o ddefod gyn-Gristnogol a oedd, mae'n debyg, yn tarddu o ddefodau'n ymwneud â dathlu duw'r goleuni, drwy aberthu brenin yr adar, sef y dryw bach, i'r duw hwn.
Dywed Edward Llwyd (1660-1709): "Arferent yn Swydd Benfro ayb ddwyn driw mewn elor ar Nos Ystwyll; oddi wrth gŵr ifanc at ei gariad, sef dau neu dri ai dygant mewn elor gyda rhubanau; ag a ganant garolion. Ânt hefyd i dai eraill lle ni bo cariadon a bydd cwrw ayb." Diflannodd yr arferiad hwn o'r tir oddeutu 1890.[1]
Weithiau, os nad oedd dryw ar gael defnyddid aderyn y to.
Roedd rhybeth cyfrin iawn am adar i'r Celtiaid; fe geir darluniau niferus ohonynt, yn arbennig o adar dŵr.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Chwedlau Gwerin Cymru gan Robin Gwyndaf; Amgueddfa Werin Cymru 1995.
Gweler hefyd [golygu]
- Adar Rhiannon
- Blodeuwedd - y dylluan
- Breuddwyd Rhonabwy - brain
- Eryr Gwernabwy