Hecataeus o Filetos

Oddi ar Wicipedia
Hecataeus o Filetos
Ganwyd6 g CC Edit this on Wikidata
Miletus Edit this on Wikidata
Bu farwMiletus Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMiletus Edit this on Wikidata
Galwedigaethdaearyddwr, hanesydd, ysgrifennwr, mythograffydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGenealogia Edit this on Wikidata
Gweler hefyd y dudalen gwahaniaethu Hecataeus.
Ail-luniad o fap Anaximander ar gyfer gwaith Hecateus

Hanesydd a daearyddwr o Roegwr oedd Hecateus (Groeg: Ἑκαταῖος) neu Hecateus o Filetos (c. 550 CC - 476 CC). Roedd yn frodor o ddinas Roeg Miletos, yn Asia Leiaf.

Ceisiodd ddadfytholegeiddio hanes cynnar Groeg yr Henfyd trwy greu cronoleg led-hanesyddol seiliedig ar hanes traddodiadol ac achau teuluoedd blaenllaw Miletos yn ei lyfr Yr Achau / Hanes.

Teithiai'n eang gan ymweld â nifer o lefydd yn yr Henfyd, gan gynnwys Gwlad Groeg, Thrace a Persia, ynghyd â rhannau o'r Eidal, Sbaen a Gogledd Affrica lle ceid dinasoedd Groegaidd. Ysgrifennodd lyfr am ei deithiau - Taith o gwmpas y Byd - sydd ar goll bellach, yn anffodus, ac eithrio ambell ddryll ohono yng ngwaith awduron diweddarach. Roedd yr 'argraffiadau' cyntaf o'r gwaith yn cynnwys map o'r byd Clasurol cynnar gan y cartograffydd a daearyddwr Anaximandros, yntau yn frodor o Filetos.

Gan Hecateus y ceir y cyfeiriad hanesyddol cyntaf at y Celtiaid.