Hawys Lestrange

Oddi ar Wicipedia
Hawys Lestrange
Ganwyd13 g Edit this on Wikidata
Bu farw1310 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
TadJohn Lestrange, John (II) Lestrange Edit this on Wikidata
MamLucy Tregoz, Amice Edit this on Wikidata
PriodGruffudd ap Gwenwynwyn Edit this on Wikidata
PlantOwain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn, Margred 'de La Pole' o Gymru, Dafydd ap Gruffudd ap Gwenwynwyn ab Owain, Llywelyn ap Gruffudd ap Gwenwynwyn, Gwilym ap Gruffudd ap Gwenwynwyn Edit this on Wikidata

Uchelwraig Cymreig oedd Hawys Lestrange (bu farw Tachwedd 1310), merch John Lestrange Arglwydd Cnwcin, a fu farw tua 1269. Priododd Gruffudd ap Gwenwynwyn, Arglwydd Powys Uchaf, (bu farw 1286) rywbryd cyn 1242. Cafodd Gruffudd ganiatâd brenhinol i agweddu tir yn Ashford i Hawis ym 1242.[1] Ganwyd iddynt chwe mab ac un ferch:

  • Margaret (bu farw 11 Mai 1336) a briododd Fulk FitzWarin, Arglwydd Whittington, sir Amwything
  • Owain, priododd Joan Corbet. Etifeddodd Cyfeiliog ac Arwystli.
  • Llywelyn, priododd Sybil Turberville, gweddw Grimbald Pauncefoot, un o farchogion Edward I
  • Gruffudd Fychan, priododd berthynas I Roger Springhose o Swydd Amwythig
  • Gwilym, priododd Gwladus
  • Dafydd, clerigwr
  • Ieuan, clerigwr

Roedd Gruffudd yn deyrngar iawn i goron Lloegr, a chafodd ei wobrwyo am ei deyrngarwch. Adroddir i Hawys dderbyn dau garw oddi wrth y brenin ym 1248, efallai am ei gwasanaeth hithau[2]. Bu'n rhaid i'r teulu ffoi pan ymosododd Llywelyn ap Gruffudd, tywysog Gwynedd ar dde Powys. Trodd Gruffudd ei gefn ar y goron yn fuan wedi hyn, o ganlyniad i ddiffyg cefnogaeth gan y brenin, a throi i gefnogi Llywelyn ym 1263, ond erbyn 1274 roedd eto'n gadarn o blaid y brenin, gan gymeryd rhan flaenllaw yng nghynllwyn Dafydd ap Gruffydd i lofruddio ei frawd Llywelyn. Mae cyffesiad ei mab Owain i Esgob Bangor yn dangos yn glir bod Hawys wedi bod a rhan fawr yn y cynllwyn, gan iddi guddio dogfennaeth y cynllun yn ddiogel dan glo yn eu cartref. Bu'n rhaid i Gruffydd a'i deulu ddianc i Loegr wedi i Lywelyn ddarganfod cysylltiad y teulu a'r digwyddiad, gan ymsefydlu yn yr Amwythig.

Sicrhaodd Gruffudd bod agweddi ei wraig yn ddiogel. Cyhoeddodd siarter i'w wraig ym 1277, a oedd yn nodi ei rhan o drefgordd Tal-y-bont, cymydau Deuddwr a Chaereinion, a thiroedd yng Nghyfeiliog ac Arwystli.[3] Bu Hawys yn weithgar yn rheoli stadau'r teulu yn y 1270au. Cymerodd feddiant o faenor Church Stretton yn ystod absenoldeb ei brawd Hamon Lestrange yn ystod croesgad 1270. Bu ef farw, a chipiwyd y stad gan y brenin Edward I, ond dychwelwyd yr ystad iddi ym 1276.[4] Parhaodd i reoli'r stadau tan tua 1308, pan drosglwyddodd y cyfrifoldeb am y farwniaeth i'w mab Gruffudd Fychan.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeirnod[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Emma Cavell, Welsh princes, English wives: the politics of Powys Wenwynwyn revisited, Cylchgrawn Hanes Cymru, 27/2 (2014), t. 229
  2. Rolls, Henry III, 1227–1272, t. 78
  3. Cavell, 'Welsh princes, English wives', t. 242
  4. Cavell, 'Welsh princes, English wives', t. 239