Hawliau LHDT yn Rwsia

Oddi ar Wicipedia

Wyneba hawliau pobl (LHDT) yn Rwsia nifer o sialensau cyfreithiol a chymdeithasol yn ogystal ag anffafriaeth na welir gan bobl heterorywiol. Er i berthynasau o'r un rhyw rhwng oedolion cydsyniol gael eu cyfreithloni yn 1993,[1] ar hyn o bryd nid oes unrhyw gyfreithiau sy'n gwahardd anffafrio ar sail cyfeiriadaeth rywiol neu hunaniaeth a mynegiant rywiol, ac ni chynigir yr un amddiffyniad cyfreithiol sydd ar gael i gyplau heterorywiol i gartrefi lle triga cyplau o'r un rhyw. Ers 2003, mae'r oed cydsynio wedi bod yr un peth ar gyfer cyplau heterorywiol a chyplau hoyw, a stopiwyd ystyried cyfunrywioldeb yn salwch meddwl yn 1999. Mae pobl trawsrywiol wedi medru newid eu rhyw yn gyfreithiol ers 1997.

Yn 2013, beirniadwyd Rwsia gan nifer o wledydd ledled y byd am basio cyfraith sy'n gwahardd dosbarthu "propoganda o berthynasau rhywiol anhraddodiadol" i blant dan oed, sydd ar lefel ymarferol yn ei gwneud yn anghyfreithlon i awgrymu fod perthynasau hoyw yn gyfartal i berthynasau heterorywiol neu i ddosbarthu deunydd am hawliau pobl hoyw.[2] Condemniwyd y ddeddf gan arweinwyr llywodraethau tramor, a chan 27 Enillwyr Gwobr Nobel o feysydd gwyddoniaeth a'r celfyddydau.[3]

Ers i'r ddeddf gwrth-bropoganda hoyw gael ei phasio, mae'r cyfryngau wedi datgan fod ymgyrchydd hawliau hoyw wedi cael ei arestio[4] a bod cynnydd yn y nifer o droseddau casineb sydd wedi'u hysgogi gan homoffobia,[5][6] gan gynnwys troseddau casineb a gyflawnir gan grwpiau neo-Natsiaidd yn erbyn arddegwyr ifanc hoyw.[7][8] Mae deddf yn gwahardd gorymdeithiau balchder hoyw ym Moscow am 100 o flynyddoedd hefyd wedi cael ei basio'n ddiweddar.[9] Mae grwpiau hawliau rhyngwladol wedi disgrifio'r sefyllfa yn Rwsia ar hyn o bryd fel y gwaethaf yn y cyfnod ar ôl yr Undeb Sofietaidd, tra bod yr ymgyrchydd hawliau dynol Lyudmila Alexeyeva wedi disgrifio'r ddeddf yn erbyn propoganda hoyw fel "cam tuag y Canol Oesodd."[2]

Mae Rwsia wedi cael ei ddisgrifio fel gwlad geidwadol o safbwynt hawliau LHDT,[10] gydag arolygon diweddar yn dynodi fod y mwyafrif o ddinasyddion Rwsaidd yn gwrthwynebu cydnabyddiaeth cyfreithiol i briodas gyfunryw ac yn cefnogi'r cyfreithiau dadleuol yn erbyn dinasyddion LHDT Rwsia.[11][12] Ystyrir dinasoedd mwy o faint fel Moscow a Saint Petersburg yn fwy goddefgar, a cheir yn ynddynt gymunedau LHDT.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Russia: Update to RUS13194 of 16 February 1993 on the treatment of homosexuals". Immigration and Refugee Board of Canada. 29 February 2000. Cyrchwyd 21 May 2009. External link in |publisher= (help)
  2. 2.0 2.1 Elder, Miriam. Russia passes law banning gay 'propaganda' .
  3. Brown, Jonathan. 27 Nobel laureates join Sir Ian McKellen to protest over Russia's gay 'propaganda' ban , 13 Ionawr 2014.
  4. Arrested By His Parents, Gay Russian Activist To Be First Person Convicted Under Propaganda Law , Queerty, 4 Medi 2013.
  5. Luhn, Alec. Russian anti-gay law prompts rise in homophobic violence , 1 Medi 2013.
  6. Weaver. Russia gay propaganda law fuels homophobic attacks , 16 Awst 2013.
  7. Russian Neo-Nazis Allegedly Lure, Torture Gay Teens With Online Dating Scam , Huffington Post, 7 Awst 2013.
  8. Gay teenager kidnapped and tortured by Russian homophobes claimed to have died from injuries , Pink News, 6 Awst 2013.
  9. BBC News - Gay parades banned in Moscow for 100 years , Bbc.co.uk, 17 Awst 2012.
  10. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2014-02-08.
  11.  GAYRUSSIA - Равные права без компромиссов.
  12. http://www.nytimes.com/2013/08/12/world/europe/gays-in-russia-find-no-haven-despite-support-from-the-west.html?pagewanted=all&_r=0

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Engle, Eric Allen (2013). Gay Rights in Russia? Russia's Ban on Gay Pride Parades and the General Principle of Proportionality in International Law, Cyfrol 6, Rhifyn 2

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: