Hattrick

Oddi ar Wicipedia
Hattrick
Enghraifft o'r canlynolgêm fideo, gwefan Edit this on Wikidata
GwladSweden Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi30 Awst 1997 Edit this on Wikidata
Genregêm ar-lein aml-chwaraewr enfawr, gêm fideo pêl-droed Edit this on Wikidata
DosbarthyddGoogle Play Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://hattrick.org Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gêm ar-lein rheoli clwb pêl-droed ydy Hattrick. Datblygwyd a chwaraewyd y gêm yn wreiddiol rhwng criw o ffrindiau yn Sweden yn 1997. Erbyn hyn, mae dros 870,000 o chwaraewyr (Mawrth 2010) dros y byd yn chwarae mewn un o 50 o ieithoedd ac yn rheoli tîm mewn system pyramid o gynghreiriau un o 124 gwlad y gêm.

Mae nifer fach o chwaraewyr wrthi'n gweithio ar gyfieithiad Gymraeg o'r gêm (Mawrth 2010). Mae'n bosib chwarae'r gêm drwy unrhyw borwr we yn rhad ac am ddim. Fel rheolwr clwb pêl-droed, mae gan chwaraewyr lawer o ddyletswyddau.

Gemau[golygu | golygu cod]

Mae gem gynghrair pob penwythnos am 14 wythnos o bob tymor (sy'n 16 wythnos). Ceir cystadleuaeth cwpan hefyd yn cael ei chwarae ym mhob gwlad a'r gemau hyn yng nghanol yr wythnos. Mae timau sydd ddim yn cymryd rhan yng ngystadleuaeth y gwpan yn gallu chwarae gem gyfeillgar yng nghanol yr wythnos. Mae hi'n arferol, felly, i bob tîm chwarae gem dwywaith yr wythnos, heblaw am bythefnos olaf y tymor. Mae'r 15fed penwythnos ar gyfer gemau ail-gyfle i'r timau sy'n gorffen mewn safle nad ydynt yn sicr o godi i'r lefel uwch na disgyn i'r lefel is. Does dim gem i'r clybiau ar penwythnos olaf y tymor gan bod chwaraewyr gorau pob gwlad yn chwarae yn gêm derfynol cwpan byd.

Chwaraewyr[golygu | golygu cod]

Yn ogystal â phrynu a gwerthu chwaraewyr, mae'r rheolwr yn gyfrifol am eu hyfforddi er mwyn gwella eu sgiliau er mwyn cryfhau'r tîm neu eu gwerthu am elw. Mae clybiau hefyd yn gallu cyflogi chwaraewr ieuenctid (17-19 oed) lleol newydd pob wythnos. Y rheolwr sy'n penderfynu ym mha safle mae pob chwaraewr yn chwarae pob gem.

Cymuned[golygu | golygu cod]

Yn ogystal â fforymau byd-eang, mae fforymau ar gael ar gyfer pob gwlad, pob rhanbarth a phob cynghrair. Mae hefyd fforymau ar gyfer chwaraewyr newydd i ofyn cwestiynau. Mae'r fforymau hyn yn rhan bwysig o'r gêm i lawer o chwaraewyr sydd hefyd yn gwneud ffrindiau newydd drwy'r gêm.

Dolennia llanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]