Harrogate (bwrdeistref)
| Bwrdeistref Harrogate | |
![]() Lleoliad bwrdeisterf Harrogate yn Swydd Gogledd Efrog |
|
| Daearyddiaeth | |
|---|---|
| Statws: | Bwrdeistref |
| Rhanbarth: | Swydd Efrog a Humber |
| Sir Gweinyddu: | Swydd Gogledd Efrog |
| Pencadlys Gweinyddu: | Harrogate |
| Demograffeg | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Cyngor Bwrdeistref Harrogate http://www.harrogate.gov.uk/ |
|
| Arweinwyr: | Arweinwr a Chabinet |
| AS: | David Curry, Anne McIntosh, Phil Willis |
Ardal llywodraeth lleol a bwrdeistref yn Swydd Gogledd Efrog, Lloegr yw Harrogate. Lleolir pencadlys y cyngor yn nhref Harrogate, ond mae hefyd yn gweinyddu'r trefi a phentrefi gerllaw.
Ffurfiwyd yr ardal ar 1 Ebrill 1974, odan Ddeddf Llywodraeth Lleol 1972, roedd yn gyfuniad o ardaloedd gwledig Masham a Wath, a rhan o Ardal Gwledig Thirsk, a oedd yn Riding Gogledd Efrog, ynghyd â bwrdeistrefi Harrogate a dinas Ripon, ardal trefol Knaresborough, Ardal Gwledig Nidderdale, Ardal Gwledig Ripon a Pateley Bridge, rhannau o Ardal Gwledig Wetherby ac Ardal Gwledig Wharfedale, a oedd i gyd yn Riding Gorllewin Efrog.
Ar 1 Ebrill 1996 fe drosglwyddwyd plwyfi Nether Poppleton, Upper Poppleton, Hessay a Rufforth o'r ardal i ddod yn ran o awdurdod unedol newydd Efrog. Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd gan y plwyfi rhain boblogaeth o 5,169.
Trefi [golygu]
Yn ôl maint poblogaeth
1. Harrogate
2. Ripon
3. Knaresborough
4. Boroughbridge
5. Pateley Bridge
Safleoedd hanesyddol [golygu]
- Amgueddfa Rufeinig Aldborough
- Abaty Fountains
- Prifeglwys Ripon
- Castell Knaresborough
- Castell Ripley
- Castell Spofforth
- Gwaun Marston
- Devil's Arrows
