Harry Potter and the Chamber of Secrets
| Harry Potter and the Chamber of Secrets | |
|---|---|
![]() Clawr papur y llyfr |
|
| Awdur | J. K. Rowling |
| Darlunydd | Cliff Wright |
| Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
| Iaith | Saesneg |
| Cyfres | Harri Potter |
| Genre(s) | Ffantasi |
| Cyhoeddwr | Bloomsbury |
| Dyddiad cyhoeddi | 2 Gorffennaf 1998 |
| Math y cyfrwng | Papur |
| Tudalennau | 251 |
| ISBN | 0747538492 |
| Rhagflaenwyd gan | Harri Potter a Maen yr Athronydd |
| Dilynwyd gan | Harry Potter and the Prisoner of Azkaban |
Harry Potter and the Chamber of Secrets ("Harri Potter a'r Siambr Gyfrinachau") yw'r ail nofel yng nghyfres Harri Potter a ysgrifennwyd gan J. K. Rowling. Nid yw eto wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg, ond cyfieithwyd y nofel gyntaf yn y gyfres, Harri Potter a Maen yr Athronydd, gan Emily Huws yn 2003.
Mae'r stori yn dilyn ail flwyddyn Harri yn Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts, pan ymddangosai cyfres o negeseuon ar waliau coridorau’r ysgol yn rhybuddio bod y "Siambr Gyfrinachau" wedi ei agor, a bod "etifedd Slafennog" yn mynd i ladd holl ddisgyblion nad ydynt yn dod o deuluoedd dewinol. Dilynir y bygythiadau gan ymosodiadau sy'n gwneud trigolion yr ysgol yn "petrified" (hynny yw, wedi'u rhewi). Trwy gydol y flwyddyn, mae Harri a'i ffrindiau Ron Weasley ac Hermione Granger yn ymchwilio mewn i’r ymosodiadau, a daw Harri wyneb yn wyneb gyda’r Arglwydd Voldemort, sydd yn ceisio adennill grym cyflawn.
Cyhoeddwyd y llyfr yn y Deyrnas Unedig trwy’r Saesneg ar 2 Gorffennaf 1998 gan y cyhoeddwyr Bloomsbury. Er mae’n debyg bod Rowling wedi'i chael yn anodd gorffen y llyfr, enillodd clod uchel gan feirniaid, darllenwyr ifanc a'r diwydiant llyfrau. Er hynny, honnai rhai beirniaid bod y stori’n rhy frawychus ar gyfer plant iau. Mae rhai awdurdodau crefyddol wedi condemnio ei defnydd o themâu hudol, tra bod eraill wedi canmol ei phwyslais ar hunanaberth ac ar y ffordd y mae cymeriad person yn ganlyniad i’w ddewisiadau.
Mae nifer o sylwebyddion wedi nodi bod hunaniaeth bersonol yn thema gref yn y llyfr, a'i fod yn mynd i'r afael â materion o hiliaeth trwy drin cymeriadau nad ydynt yn hudol, yn ddi-ddynol a rhai nad ydynt yn fyw. Mae rhai sylwebyddion yn ystyried y dyddiadur yn rhybudd rhag derbyn anfeirniadol o wybodaeth o ffynonellau y mae eu cymhellion a dibynadwyedd ni ellir eu gwirio. Ceir bortread o Awdurdodau Sefydliadol fel pethau hunan-gwasanaethu ac yn anghymwys.
Daeth y fersiwn ffilm (a chafodd ei rhyddhau yn 2002) i fod y drydedd ffilm erioed i ennill fwy na $600 miliwn mewn gwerthiannau'r swyddfa docynnau rhyngwladol.
Dolenni allanol [golygu]
|
gan J. K. Rowling |
|||
|---|---|---|---|
| Maen yr Athronydd | llyfr | ffilm | |
| Chamber of Secrets | llyfr | ffilm | |
| Prisoner of Azkaban | llyfr | ffilm | |
| Goblet of Fire | llyfr | ffilm | |
| Order of the Phoenix | llyfr | ffilm | |
| Half-Blood Prince | llyfr | ffilm | |
| Deathly Hallows | llyfr | ffilm (rhan 1) / ffilm (rhan 2) | |
