Harri Gwynn

Oddi ar Wicipedia
Harri Gwynn
Ganwyd14 Chwefror 1913 Edit this on Wikidata
Wood Green Edit this on Wikidata
Bu farw24 Ebrill 1985, 1985 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata

Llenor Cymraeg a newyddiadurwr oedd Harri Gwynn (14 Chwefror 191324 Ebrill 1985).[1] Fe'i cofir fel bardd ac fel awdur straeon byrion doniol.[2]

Fe'i ganed i rieni Cymreig yn Llundain, Lloegr yn 1913, ond symudodd y teulu i Benrhyndeudraeth, Gwynedd lle cafodd ei fagu. Cafodd yrfa amrywiol fel ffarmwr, athro a gwas sifil cyn dod yn newyddiadurwr ac yn ddarlledwr.[2]

Priododd y gwyddonydd Dr Eirwen Gwynn (née St. John Williams) ar Ddydd Calan 1942 a ganwyd eu mab Dr Iolo ap Gwynn tra roeddent yn byw yn Llundain.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cerddi[golygu | golygu cod]

  • Barddoniaeth (1955)
  • Yng Nghoedwigoedd y Sêr (1975)

Straeon byrion[golygu | golygu cod]

  • Y Fuwch a'i Chynffon (1954)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Papurau Harri Gwynn. Adalwyd ar 3 Chwefror 2016.
  2. 2.0 2.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.